Cafodd Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal Archwiliad Sgiliau Cymru i ddynodi’r sgiliau sydd eu hangen yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi a thyfu economi Cymru. 

Beth yw Archwiliad Sgiliau Cymru? 

Cynhaliwyd yr archwiliad ffurfiol diwethaf o sgiliau yng Nghymru yn 2012 ac mae’r tirlun sgiliau wedi newid yn sylweddol ers hynny ynghyd â newidiadau gwleidyddol, amgylcheddol, cymdeithasol, technolegol ac economaidd mawr. Mae bellach yn amser cynnal archwiliad sgiliau newydd i helpu Cymru i baratoi ar gyfer y dyfodol. 

Bydd Archwiliad Sgiliau Cymru yn dod ynghyd â’r dystiolaeth bresennol, dadansoddi’r data sydd ar gael a chasglu barn cynrychiolwyr diwydiant, cyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddeall anghenion sgiliau yn well. Bydd y canfyddiadau yn helpu i lunio cynllunio a gwneud penderfyniadau gan wneuthurwyr polisi, cyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant a rhanddeiliaid eraill o amgylch anghenion sgiliau strategol Cymru. 

Fel rhan o Archwiliad Sgiliau Cymru, rydym yn casglu gwybodaeth drwy alwad am dystiolaeth gan randdeiliaid a hoffai gyfrannu tystiolaeth a/neu eu dealltwriaeth am anghenion sgiliau yng Nghymru.

Bydd eich ymateb yn helpu i lywio’r sail dystiolaeth ar gyfer Archwiliad Sgiliau 2026 ac yn cefnogi cynllunio a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol ledled Cymru.

Gallwch gael rhagolwg o gwestiynau’r arolwg yma.

Bydd arolwg y Galwad am Dystiolaeth ar gael tan 25 Medi 2026 ac i gymryd rhan, dilynwch y ddolen isod.

Archwiliad Sgiliau Cymru – Galwad am Dystiolaeth