Neidio i’r prif gynnwys

Darganfod ein holl waith

Hidlydd

Hidlwyr

Maes
Thema

25 Medi 2026

Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd

Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.

Darllen mwy

22 Medi 2026

Datgloi potensial gyda dysgu gydol oes

Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n gyfle i gydnabod na fu dysgu gydol oes erioed yn bwysicach i lwyddiant Gogledd Cymru yn y dyfodol. Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn ymadael â’r ysgol, coleg neu brifysgol. Yn economi heddiw sy’n esblygu drwy’r amser,  mae datblygu sgiliau newydd ar hyd ein bywydau yn hanfodol i helpu pobl adeiladu eu hyder, addasu i newidiadau, sicrhau cynnydd yn eu gyrfaoedd a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru

Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru

Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi - yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.

Darllen mwy

17 Medi 2026

Deall buddsoddiad cyflogwr mewn sgiliau

Mae dadansoddiad newydd yn rhybuddio y gallai cynlluniau’r Llywodraeth i gael yr economi i dyfu fethu os nad yw’n gweithredu i wrthdroi gostyngiad mawr yn yr hyfforddiant a gaiff cyflogeion yn y gwaith.

Darllen mwy

11 Awst 2026

Cyflenwi rhaglenni gwaith ac iechyd lleol: Cynghorion Da

Mae’r cynghorion da hyn yn rhannu gwersi ymarferol ar ddylunio, cyflenwi a gwerthuso rhaglenni gwaith ac iechyd lleol. Cawsant eu cynllunio ar gyfer y rhai sy’n llunio a chyflenwi polisi lleol a rhanbarthol, timau data a gwerthuso ac uwch wneuthurwyr penderfyniadau.

Darllen mwy

24 Gorffennaf 2026

Llywodraeth Cymru: Archwiliad Sgiliau Cymru

Cafodd Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal Archwiliad Sgiliau Cymru i ddynodi’r sgiliau sydd eu hangen yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi a thyfu economi Cymru.  Beth yw Archwiliad Sgiliau Cymru?  Cynhaliwyd yr archwiliad ffurfiol diwethaf o sgiliau yng Nghymru yn 2012 ac mae’r tirlun […]

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Addysg oedolion yng Nghymru: Arolwg Cyfranogiad Aelodau mewn Dysgu 2025

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion. Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy