Cafodd y Teclyn Ymgysylltu â Dysgwyr ei lunio i gefnogi darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned ar draws Cymru i wella eu dull o ymgysylltu â dysgwyr. Fe’i datblygwyd i gefnogi cydymffurfiaeth y sector gyda Chod Ymgysylltu â Dysgwyr cenedlaethol Medr, sy’n weithredol ar gyfer pob darparydd addysg drydyddol. Fodd bynnag, nid cefnogi cydymffurfiaeth yw ei unig nod.
Mae’r Teclyn yn cyflwyno model ar gyfer hunanwerthuso a chynllunio gweithredu sy’n seiliedig ar ymrwymiad hirhoedlog dysgu oedolion yn y gymuned i rymuso dysgwyr a chymunedau, nodweddion a chryfderau neilltuol ymarfer a darparu dysgu oedolion yn y gymuned, ac anghenion dysgwyr.
Sut y cafodd y Teclyn ei ddatblygu?
Fe wnaeth Medr gomisiynu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith i weithio gyda darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned i greu’r adnodd ar y cyd.
Mae’n defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth o:
- Adolygiad cyflym o dystiolaeth gyhoeddedig o ymchwil ac ymarfer cyfredol ar ymgysylltu dysgwyr mewn gwneud penderfyniadau yng Nghymru, ynghyd â modelau a fedrai fod ynn ddefnyddiol o rannau eraill o Ewrop
- Deg cyfweliad manwl gyda darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned, a ddewiswyd i ddangos amrywiaeth o ymarfer sy’n dod i’r amlwg mewn ymgysylltu â dysgwyr ar lefel darparydd a hefyd lefel Partneriaeth.
- Deg gweithdy wyneb yn wyneb ar gyfer darparwyr, i adolygu’r adnodd a rhoi gwybodaeth ac awgrymiadau ar gamau allweddol yn ei ddatblygiad.
- Adborth manwl gan bedwar darparydd dysgu oedolion yn y gymuned a wnaeth dreialu’r matrics drafft ar gyfer hunanwerthuso a’r teclyn cynllunio gweithredu.
Caiff y Teclyn ei rannu yn bum maes lefel uchel sy’n dangos themâu allweddol ymgysylltu â dysgwyr mewn dysgu oedolion yn y gymuned:
- Bod yn strategol
- Grymuso dysgwyr
- Hyrwyddo cynhwysiant
- Cynyddu capasiti
- Cyflawni effaith
Ymchwilio’r teclyn
Cryfhau Ymgysylltu â Dysgwyr mewn Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Matrics Hunanwerthuso Darparydd/Partneriaeth a Theclyn Cynllunio Gweithredu
Ewch i adnoddFforwm Genedlaethol Dysgwyr
Ynghyd â datblygu’r Teclyn Ymgysylltu â Dysgwyr, bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith hefyd yn gweithio gyda Medr a’r sector dysgu oedolion yn y gymuned i beilota Fforwm Genedlaethol Dysgwyr.
Caiff integreiddio llais dysgwyr ei gydnabod yn gynyddol fel conglfaen ar gyfer meithrin system addysg ymatebol a theg.
Mae rhoi’r dysgwyr wrth galon y system a ffocws ar eu profiad a llesiant yn flaenoriaeth strategol i Medr. Mae ffocws ar ddatblygu ymatebion o amgylch adborth dysgwyr, sefydlu strwythurau i gysylltu’n uniongyrchol gyda dysgwyr a datblygu dull mwy cydlynol i ymgysylltu â dysgwyr a llais dysgwyr ar draws holl sector addysg trydyddol.
Cafodd y prosiect ei strwythuro o amgylch:
- Adolygiad cyflym o lenyddiaeth yn gysylltiedig â llais dysgwyr ac ymgysylltu â dysgwyr – roedd hyn yn cynnwys peth ymchwil desg, adolygiad o adroddiadau arolwg Estyn a thrafodaethau gyda phartneriaid oedd wedi sefydlu rhaglenni llais dysgwyr.
- Datblygu canllawiau gweithdy i gefnogi darparwyr/tiwtoriaid dysgu oedolion yn y gymuned i baratoi dysgwyr gyda sgiliau mewn eiriolaeth a chynrychiolaeth a’u paratoi i gymryd rhan mewn Fforwm Dysgwyr. Roedd hyn yn adeiladu ar yr adnoddau a ddatblygwyd ar gyfer rhaglen “Grymuso Llysgenhadon Dysgwyr”.
Cafodd y model a ddatblygwyd ei dreialu gyda Phartneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Nghaerffili, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd a Môn, a Rhondda Cynon Taf. Cyflwynwyd gweithdai i ddysgwyr i ddynodi cynrychiolwyr Fforwm Dysgwyr ynghyd â thrafodaethau grwpiau wedi eu hwyluso i gasglu adborth gan dysgwyr o amgylch pedair thema.
- Cymhellion i ddysgu
- Rhwystrau ymgysylltu addysg oedolion
- Ymchwilio effaith dysgu a manteision ehangach
- Anghenion dysgu y dyfodol
