Mae cyflogwyr yn buddsoddi llai mewn hyfforddiant ac mae hyfforddiant yn mynd yn fyrrach, gan ddal cynhyrchiant yn ôl. Mae’r rhesymau am hyn yn amrywio yn ôl sector yn dibynnu ar natur y cynnyrch a marchnadoedd llafur, nodweddion busnesau, a sefydliadau.
I newid hyn, mae angen i ni gynyddu’r galw am sgiliau drwy gefnogi twf economaidd ac arweinyddiaeth y sector cyhoeddus. I wneud hyfforddiant yr ymateb cyntaf i anghenion sgiliau, dylem hyrwyddo mwy o gydweithio gan gyflogwyr lle mae sgiliau yn fwyaf tebygol o beidio cael buddsoddiad digonol a gwella cymhellion a chefnogaeth i fusnesau hyfforddi. Byddai cysylltu hyfforddiant a chymorth busnes yn well yn helpu i sicrhau y caiff sgiliau eu defnyddio’n fwy effeithlon yn y gwaith.
Mae hyfforddiant wedi mynd yn fyrrach, gyda’r risg o ddal cynhyrchiant yn ôl. Buddsoddodd cyflogwyr yn y Deyrnas Unedig 29% yn llai mewn hyfforddiant fesul gweithiwr yn 2024 nag yn 2011. Mae’r gyfran o weithwyr sy’n cymryd rhan mewn hyfforddiant bob blwyddyn wedi parhau’n gymharol uchel ar 60%, ond mae hyfforddiant yn fyrrach, gan ostwng o 7.8 diwrnod fesul hyfforddai yn 2011 i 5.7 diwrnod yn 2024. Mae’r jam yn cael ei daenu’n deneuach.
Mae’r Deyrnas Unedig yn sefyll allan ar hyn yn rhyngwladol, gyda’r gyfran uchaf o benodau hyfforddiant sy’n parhau am lai nag un diwrnod. Iechyd a diogelwch yw’r rheswm mwyaf cyffredin am hyfforddiant. O gofio fod hyfforddiant hirach yn fwy tebygol o fod yn ddatblygiadol, a bod sylfaen sgiliau y Deyrnas Unedig yn wannach na llawer o wledydd cymharol, mae hyn yn peri pryder. Yn ddwywaith gymaint felly o gofio fod 80% o weithlu 2035 eisoes wedi gadael addysg orfodol a bod newid technolegol fel deallusrwydd artiffisial yn ail-lunio byd waith.
Nod y prosiect hwn, a gyllidwyd gan Sefydliad Nuffield, oedd deall pam, yn defnyddio dulliau cymysg o adolygiad desg, cyfweliadau gydag arbenigwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant, a dadansoddi data. Edrychodd ar yr economi gyfan, gyda ffocws ddyfnach ar sectorau twf allweddol; ariannol a gwasanaethau busnes; creadigol a diwylliannol; technolegau glân; a gwybodaeth a chyfathrebu. Roedd yn cynnwys cymariaethau rhyngwladol. Arweiniwyd y prosiect gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Strathclyde a Phrifysgol Ulster. Fe wnaeth grŵp ymgynghorol o arbenigwyr o’r llywodraeth, grwpiau cyflogwyr a’r sector dysgu a sgiliau helpu i hysbysu ei waith.