Mae addysg oedolion yn gonglfaen cymdeithas ffyniannus, gan gynnig buddion dybryd sy’n ymestyn ymhell tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’n helpu unigolion i sicrhau cyflogaeth ystyrlon, yn cefnogi iechyd a lles meddwl ac yn meithrin integreiddio cymdeithasol cryfach. Wrth i’n poblogaeth heneiddio a thrawsnewid cyflym yn yr economi, mae pwysigrwydd dysgu gydol oes, parhaus yn sicr o dyfu.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion.

Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Tirlun dysgu yng Nghymru

Mae’r canfyddiadau diweddaraf yn cynnwys newyddion cadarnhaol: mae oedolion yng Nghymru yn perfformio’n well na chyfartaledd y Deyrnas Unedig pan ddaw i ddysgu sgiliau newydd. Dywedodd bron hanner (47%) oedolion Cymru iddynt gymryd rhan mewn rhyw fath o ddysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, o gymharu â 42% ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol.

Fodd bynnag, ni chaiff y stori hon o lwyddiant ei rhannu yn gyfartal ac mae bwlch mawr mewn dysgu yn parhau. Mewn gwirionedd, nid yw mwy nag un ym mhob pump o oedolion Cymru (22%) wedi cymryd rhan mewn unrhyw addysg neu hyfforddiant ers iddynt adael yr ysgol llawn-amser. Mae’r diffyg cydraddoldeb yma, a gaiff ei yrru gan radd cymdeithasol a statws cyflogaeth, yn fwy yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, gyda gweithwyr llawn-amser ddwywaith mor debyg o ddysgu a’r rhai sy’n economaidd anweithgar.

Ymchwiliwch y set lawn o ganfyddiadau o Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu 2025.

Darllenwch ein blog diweddaraf ar Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu Cymru gan Michelle Matheron, Cyfarwyddwr

Mynd i’r blog