Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan.
Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.
Mae oedolion mewn gwaith yn llawer mwy tebygol o fod yn dysgu na’r rhai tu allan i’r farchnad lafur. Mae gweithwyr llawn-amser fwy na dwywaith mor debyg (59%) o fod wedi cymryd rhan mewn dysgu yn ddiweddar na’r rhai sy’n economaidd anweithgar (28%) a’r rhai sydd wedi ymddeol (23%). Y rhai sydd eisoes wedi cysylltu gyda’r gweithle sydd fwyaf tebygol o gael mynediad i gyfleoedd i gynyddu eu sgiliau, tra bod y rhai a allai gael y budd mwyaf yn aml yn cael eu gadael ar ôl. Mae gan Gymru gyfraddau uwch o bobl economaidd anweithgar na gweddill y Deyrnas Unedig ac mae ymchwil blaenorol Dysgu a Gwaith yn dangos pwysigrwydd gweithredu i alluogi pobl i gael mynediad i waith a’u cefnogi i aros yno; mae gan ddysgu rôl allweddol yn yr ymdrech hon.
Mae cyfranogiad hefyd yn amrywio o 55% ymysg graddau cymdeithasol uwch i ddim ond 36% ymysg y rhai yn y graddau isaf, mae’r bwlch hwn yn ymddangos yn fwy nag yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Mae’r rhai mewn swyddi mwy diogel gyda chyflog uwch yn llawer mwy tebygol o barhau i gynyddu eu sgiliau, tra bod y rhai mewn gwaith ar gyflog is neu lai sefydlog yn llai tebygol o wneud hynny.
A pho fwyaf a ddysgwch, y mwyaf rydych eisiau ei ddysgu. Mae oedolion a arhosodd yn hirach mewn addysg lawn-amser yn llawer mwy tebygol o ddal ati i ddysgu yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae mwy a hanner (53%) y rhai a adawodd addysg yn 21 oed neu drosodd wedi cymryd rhan mewn dysgu yn ddiweddar, o gymharu â dim ond 34% o’r rhai a adawodd yn 16 neu iau. Mae hyn awgrymu y gall profiadau addysgol cynnar fwrw cysgod hir ac o bosibl effeithio ar agweddau at ddysgu ddegawdau yn ddiweddarach.
Efallai mai oedran yw’r llinell wahanu amlycaf. Mae gostyngiad mawr mewn cyfranogiad wrth i bobl heneiddio gyda 59% o oedolion 25-49 oed yn dweud iddynt ddysgu yn ddiweddar, ond dim ond 30% ymysg rhai 50-74 oed. Mae’r tueddiad hwn yn achosi pryder arbennig o gofio fod y boblogaeth yn heneiddio a bywydau gwaith hirach lle bydd ailsgilio yn hanfodol ar gyfer unigolion a hefyd ar gyfer busnesau. Mae hefyd yn drawiadol hyd yn oed o fewn y grŵp oedran 25-49, fod un ym mhob pump o ymatebwyr yn dweud fod teimlo yn “rhy hen” yn rhwystr i ddysgu.
Ymysg oedolion nad ydynt yn dysgu, mae’r rhesymau mwyaf cyffredin yn cynnwys teimlo yn “rhy hen” (34%), cost (31%) a diffyg diddordeb (27%). Nid dim ond rhwystrau ymarferol yw’r rhain – maent yn adlewyrchu syniadau am bwy mae, ac nad yw, dysgu ar eu cyfer.
Y canlyniad yw system lle caiff cyfle ei rannu yn anwastad. Gwyddom fod dysgu gydol oes yn sylfaenol ar gyfer twf economaidd a symudedd cymdeithasol; mae straeon o’n gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion blynyddol yn cadarnhau’r neges hon dro ar ôl tro. Ond i gyflawni’r canlyniadau hyn ni all dysgu barhau yn rhywbeth sydd o fudd yn bennaf i’r rhai sydd eisoes mewn gwaith, a gafodd well addysg neu sy’n fwy breintiedig.
Ar gyfartaledd, soniodd oedolion nad ydynt wedi ymwneud â dysgu yn y tair blynedd ddiwethaf fod mwy na dau rwystr yn eu hatal rhag cymryd rhan. Mae’n rhaid i ymyriadau sy’n anelu i annog cyfranogiad mewn dysgu roi ystyriaeth i’r amrywiaeth rhwystrau sy’n wynebu pobl, mae hyn yn cynnwys cost, gofal plant, hyder, diffyg gwybodaeth ac arweiniad neu amser. Mae hefyd y rhai sy’n dweud nad ydynt eisiau dysgu – ychydig dros chwarter (27%) yn yr arolwg hwn – gan ddangos pwysigrwydd ymestyn allan i bobl a chodi ymwybyddiaeth o fuddion dysgu. A nid dim ond yr unigolyn fydd yn cael budd os gallwn ateb yr her yma, caiff effaith gadarnhaol dysgu ei deimlo mewn teuluoedd, cymunedau, y gwasanaeth ieuenctid a’r economi. Bydd ehangu ymgysylltu mewn dysgu yn talu ar ei ganfed i bawb ohonom tu mewn a hefyd tu allan i’r ystafell ddosbarth.
A ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?
Ymchwilio canfyddiadau o Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu Cymru 2025.
Darllenwch yr adroddiad llawn