Mae’r pecyn cymorth ymarferol hwn ar gyfer colegau addysg bellach yng Nghymru yn rhoi sylw i ddulliau effeithlon i gefnogi oedolion ifanc sy’n gofalu mewn addysg bellach Mae oedolion ifanc sy’n gofalu yn bobl ifanc 16-24 oed sy’n darparu gofal di-dâl i rywun, fel arfer aelod o’u teulu, yn rheolaidd.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi paratoi’r pecyn cymorth hwn mewn cysylltiad â 36 o oedolion ifanc sy’n gofalu ledled Cymru a rannodd eu profiadau, sylwadau a’u gwybodaeth ar gymorth effeithlon mewn addysg bellach. Fe wnaeth eu mewnbwn lunio cynnwys a strwythur y pecyn cymorth, felly mae ei ffocws ar yr hyn a ddywedodd oedolion ifanc sy’n gofalu sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w profiadau o goleg. Fe’i cynlluniwyd i ategu ac adeiladu ar ffynonellau eraill o gymorth a gwybodaeth mewn colegau ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu.
Mae angen y pecyn cymorth hwn oherwydd yn aml nid yw pobl yn rhoi ystyriaeth i ofalwyr ifanc ac efallai nad ydynt yn gysurus yn siarad am eu sefyllfa. Bydd cael canllawiau ac adnoddau mewn un lle yn helpu staff i ymateb mewn modd mwy priodol, cynnig cymorth ynghynt a chreu amgylchedd yn y coleg sy’n dangos mwy o ddealltwriaeth … Bydd hyn yn gwneud i ofalwyr ifanc deimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth, eu bod yn llai ynysig ac yn fwy abl i lwyddo mewn addysg
Cynulleidfa darged
Anelwyd y pecyn cymorth hwn at staff mewn swyddi cymorth dysgu a/neu gymorth llesiant mewn colegau. Fodd bynnag, mae’r cynnwys yn berthnasol i staff mewn llawer o wahanol adrannau, yn arbennig y rhai sydd â chysylltiad cyson gyda dysgwyr, tebyg i hyfforddwyr cynnydd a staff derbynfa..
Sut i ddefnyddio’r pecyn cymorth yma
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys cyngor ac awgrymiadau ymarferol, enghreifftiau o ymarfer effeithlon ac adnoddau a thempledi y gall colegau eu defnyddio i hybu eu cymorth i oedolion ifanc sy’n gofalu. Gallwch ei ddarllen o’r dechrau i’r diwedd neu fynd i’r adrannau sydd fwyaf perthnasol i’ch ymarfer yn defnyddio’r penawdau adran isod.
Diolchiadau
Hoffai Dysgu a Gwaith ddiolch i Medr am gefnogi llunio’r pecyn cymorth hwn ac i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yr oedolion ifanc sy’n gofalu, gwasanaethau gofalwyr ifanc a’r staff coleg a roddodd eu hamser i’n helpu i ddatblygu cynnwys y pecyn cymorth hwn.
Ewch i …
Pwy yw’r oedolion ifanc sy’n gofalu?
Adeiladu diwylliant yn y sefydliad o gymorth ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu
Hyfforddiant staff a chodi ymwybyddiaeth
Cefnogi oedolion ifanc sy’n gofalu i bontio i’r coleg
Adnabod oedolion ifanc sy’n gofalu
Cyfathrebu’n effeithlon gydag oedolion ifanc sy’n gofalu
Cymorth parhaus
Dolenni i adnoddau defnyddiol
Pwy yw’r oedolion ifanc sy’n gofalu?
Mae oedolion ifanc sy’n gofalu yn bobl ifanc 16-24 sy’n darparu gofal di-dâl yn rheolaidd i rywun, fel arfer aelod o’u teulu.
Gallant fod yn gofalu am riant, brawd neu chwaer, taid neu nain neu berthynas arall sydd ag anabledd, salwch hirdymor, problem iechyd meddwl neu gyflwr arall sy’n arwain at fod angen gofal, cymorth neu oruchwyliaeth.
Er fod bod yn ofalwr yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu llawer o sgiliau a nodweddion personol cadarnhaol, mae rôl gofalu yn aml yn cael effaith sylweddol ar addysg pobl ifanc, eu hiechyd meddwl a’u rhagolygon gyrfa. Mae’r ffeithlun isod yn dangos rhai ystadegau o ymchwil gydag oedolion ifanc sy’n gofalu. Gallech ddefnyddio hyn mewn gweithgareddau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth gyda staff a myfyrwyr.

Adeiladu diwylliant yn y sefydliad o gymorth ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu
Yr hyn sy’n bwysig yma:
- Mae polisi neilltuol ar oedolion ifanc sy’n gofalu ac arweinwyr ar lefelau uwch a gweithredol yn helpu i sicrhau cymorth gan arweinwyr uwch a chymorth strategol ar gyfer y grŵp hwn o ddysgwyr.
- Mae cynnwys oedolion ifanc sy’n gofalu wrth ddatblygu ac adolygu cymorth yn sicrhau ei fod yn diwallu eu hanghenion yn y ffordd orau.
- Mae dull gweithredu ystyriol o drawma ar draws y sefydliad yn gwella cymorth ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu a hefyd i bob myfyriwr.
- Mae gweithio partneriaeth gyda gwasanaethau gofalwyr lleol, elusennau a gwasanaethau cymorth eraill yn galluogi colegau i ddefnyddio cynigion cymorth ar draws y gymuned leol, yn ogystal ac ymestyn eu prosesau eu hunain.
Yn sail i gymorth ansawdd uchel ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu mewn addysg uwch mae ymrwymiad gan y sefydliad i wella deilliannau ar gyfer y grŵp hwn a diwylliant o gymorth sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr. Disgrifiodd colegau ledled Cymru sut oeddent wedi cyflawni hyn.
Roedd y camau gweithredu yn cynnwys:
- Polisi neilltuol ar oedolion ifanc sy’n gofalu – er bod polisïau diogelu a llesiant y rhan fwyaf o golegau yn cynnwys oedolion ifanc sy’n gofalu, mae rhai wedi datblygu polisi neilltuol ar oedolion ifanc sy’n gofalu. Ar gyfer y colegau yma, rhoddodd hyn y ffocws strategol sydd ei angen i uwch arweinwyr a llywodraethwyr i roi blaenoriaeth i oedolion ifanc sy’n gofalu fel grŵp sydd angen cymorth. Gallwch ddefnyddio’r templed hwn i greu polisi i’ch coleg ar oedolion ifanc sy’n gofalu.
- Arweinydd penodol ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu ar lefelau uwch a gweithredol – mae cael arweinydd gweithredol neu bencampwr ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu yn ffordd effeithlon i sicrhau fod staff a myfyrwyr yn gwybod at bwy i fynd i gael cymorth arbenigol. Fodd bynnag, mae’n hanfodol y caiff eu manylion eu hyrwyddo’n effeithlon ac yn rheolaidd i staff a myfyrwyr, er enghraifft, drwy bosteri o amgylch y campws (gweler enghraifft Coleg Gŵyr Abertawe yma), y fewnrwyd ac atgoffa cyson mewn cyfarfodydd a sesiynau tiwtorial. Mae llywodraethwr arweiniol ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu hefyd yn helpu i yrru cymorth strategol ar gyfer y grŵp hwn ymysg uwch arweinwyr ac ar draws y coleg.
Astudiaeth achos arfer da: Pencampwyr Gofalwyr ar y campws yng Ngholeg y Cymoedd
Mae gan bob campws yng Ngholeg y Cymoedd arweinydd penodol i ofalwyr y gall oedolion ifanc sy’n gofalu fynd atynt i gael cymorth a gwybodaeth. Caiff yr arweinwyr hyn eu cefnogi gan brif bencampwr gofalwyr y coleg sy’n rhan o’r tîm llesiant. Mae’r pencampwr yn gweithio ar draws timau i sicrhau fod oedolion ifanc sy’n gofalu yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo, y caiff unrhyw rwystrau a wynebant eu gostwng a bod tiwtoriaid yn gefnogol.
- Dilyn dull gweithredu sefydliad cyfan sy’n ystyriol o drawma (TrACE) – drwy gydol ein cyswllt gydag oedolion ifanc sy’n gofalu, fe wnaethant yn gyson dynnu sylw at bwysigrwydd bod gan staff ymagwedd empathetig, anfeirniadol a chynhwysol at gymorth. Mae’r dull ystyriol o drawma hwn i gefnogi myfyrwyr o fudd i oedolion ifanc sy’n gofalu a hefyd i bob myfyriwr.
Astudiaeth achos arfer da: Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro
Mae ffocws cyfredol tîm llesiant Coleg Caerdydd a’r Fro ar ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a dod yn fwy ystyriol o drawma. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o anghenion cymorth gwahanol ddysgwyr – yn cynnwys oedolion ifanc sy’n gofalu – mae’r tîm yn gweithio ar draws adrannau i sefydlu dull gweithredu ystyriol o drawma fel bod cymorth yn gynhwysol. Cafodd yr holl bolisïau a gweithdrefnau eu hadolygu drwy’r lens yma. Mae hyn yn golygu nad yw staff mwyach yn symud yn syth i reoli ymddygiad pan fo problem yn codi, ond eu bod yn dechrau deall y gallai ymddygiad fod yn ganlyniad angen ehangach, yn cynnwys bod yn oedolyn ifanc sy’n gofalu, iechyd meddwl neu anghenion dysgu ychwanegol.
- Cynnwys oedolion ifanc sy’n gofalu wrth ddatblygu ac adolygu cymorth – mae creu adnoddau, polisïau, prosesau a chynigion cymorth ar y cyd gydag oedolion ifanc sy’n gofalu yn sicrhau fod colegau yn cynnig yr hyn mae oedolion ifanc sy’n gofalu ei angen pan fyddant fwyaf ei angen. Er enghraifft, mae Coleg Penybont newydd ddiweddaru eu polisi neilltuol ar oedolion ifanc sy’n gofalu gyda mewnbwn gan fyfyrwyr gyda chyfrifoldebau gofalu i sicrhau ei fod yn cynnwys pob math o gymorth maent eisiau ei weld yn y coleg.
- Gweithio partneriaeth – mae partneriaeth gref gyda’r gwasanaeth gofalwyr ifanc lleol yn ganolog wrth hybu cymorth ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu ar bob cam o’u taith fel dysgwyr yn y coleg, o ddynodi a chymorth pontio, hyd at help gyda llesiant, cyllid a’r camau nesaf ar ôl coleg. Mae partneriaethau gydag ysgolion, awdurdodau lleol a mudiadau cymunedol eraill a all gynnig cymorth hefyd yn bwysig wrth roi cynnig cymorth holistig i oedolion ifanc sy’n gofalu.
Astudiaeth achos ymarfer da: Partneriaeth Coleg Gŵyr Abertawe gyda Chanolfan Gofalwyr Abertawe
Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe bartneriaeth gref gyda’u gwasanaeth gofalwyr ifanc lleol. Maent yn cwrdd yn rheolaidd fel bod pobl ifanc yn medru rhannu gwybodaeth am eu statws gofalu a’u hanghenion cymorth pan fyddant yn mynd i’r coleg. Os nad yw myfyriwr eisoes mewn cysylltiad â’r gwasanaeth gofalwyr ifanc, bydd Coleg Gŵyr yn gofyn am ganiatâd i’w hatgyfeirio am y cymorth hwn ac yn cynnig defnydd ystafell ar gyfer eu sgwrs ddechreuol, i helpu’r person ifanc i deimlo’n gysurus. Mae’r coleg hefyd yn gwahodd Canolfan Gofalwyr Abertawe i gynnal stondinau yn eu ffair gleision, ar gyfer yr Wythnos Gofalwyr a digwyddiadau eraill drwy gydol y flwyddyn.
Hyfforddiant staff a chodi ymwybyddiaeth
Yr hyn sy’n bwysig yma:
- Mae hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff yn brif flaenoriaeth yn gyson ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu.
- Mae’r holl staff angen hyfforddiant a chymorth ar adnabod a chefnogi oedolion ifanc sy’n gofalu fel y gall pobl ifanc gael eu cefnogi’n effeithlon ar hyd eu taith ddysgu.
- Dylai colegau gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno hyfforddiant staff gydag oedolion ifanc sy’n gofalu i sicrhau ei fod yn ystyrlon ac yn dod â’u profiadau yn fyw.
Mae oedolion ifanc sy’n gofalu yn gyson yn dweud bod hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff o oedolion ifanc sy’n gofalu yn hanfodol i wella’r cymorth a gânt yn y coleg. Mae llawer yn gweld hyn fel sylfaen ar gyfer cymorth da, gyda phob agwedd arall a gaiff eu cynnwys yn y pecyn cymorth hwn yn deillio o ddealltwriaeth aelodau staff a’u hymagwedd at gefnogi oedolion ifanc sy’n gofalu.
Yn neilltuol, soniodd oedolion ifanc sy’n gofalu am yr angen i:
- Yr holl staff i gael hyfforddiant ar oedolion ifanc sy’n gofalu fel rhan o’u cynefino staff – mae hyn yn cynnwys addysgu, gweinyddol, bugeiliol a staff ehangach, fel bod cymorth yn gyson ac y gall unrhyw un adnabod a deall oedolion ifanc sy’n gofalu. Gellir lawrlwytho sleidiau templed ar gyfer sesiwn hyfforddi staff. Gellir hefyd ddefnyddio adnoddau Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i godi ymwybyddiaeth ymysg staff.
Doedd yr ymwybyddiaeth ddim yna pan es i addysg bellach gyntaf a roeddwn yn colli’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg ac roedden nhw’n dweud y drefn oherwydd nad oeddwn i’n gwneud aseiniadau mewn pryd a phethau felly. Ond nawr fod yr ymwybyddiaeth yno a’u bod wedi cael yr hyfforddiant hwnnw, mae’n hollol wahanol ac mae ganddyn nhw agwedd hollol wahanol, nid oherwydd eu bod yn gorfod ond oherwydd eu bod yn gwybod sut … mae’n newid y diwylliant ac yn newid y ddeinameg rhyngom, yn hytrach na bod fel ‘rwyt ti yn ifanc, fe ddylent wneud hyn’. Mae fel ‘rydyn ni’n deall fod y cyfrifoldebau hyn gen ti’ ac mae ryw fath o’ch rhoi ar dir chwarae gwastad.
- Staff i gael hyfforddiant gloywi rheolaidd fel bod oedolion ifanc sy’n gofalu yn parhau yn grŵp blaenoriaeth allweddol ar gyfer cymorth. Gallai hyn fod yn gwrs byr ar-lein y mae staff yn ei ddilyn ar ddyddiau hyfforddiant mewn swydd neu a gyflwynir fel rhan o ddyddiau hyfforddiant staff.
- Oedolion ifanc sy’n gofalu i fod â rhan wrth ddylunio a chyflwyno hyfforddiant staff fel y caiff profiadau go iawn eu rhannu a bod cynnwys yn cael mwy o effaith. Dylai staff sicrhau y caiff oedolion ifanc sy’n gofalu lawer o gymorth drwy gydol y broses fel eu bod yn teimlo’n ddiogel a dim ond yn rhannu yr hyn maent yn gysurus i’w rannu. Mae hyn yn gydnaws gyda’r cod ymgysylltu â dysgwyr.
- Atgoffa staff yn gyson am y cymorth sydd ar gael i oedolion ifanc sy’n gofalu yn y coleg. Gellid gwneud hyn fel eitem fer mewn cyfarfodydd staff neu drwy rannu taflenni drwy e-bost neu yn yr ystafell staff drwy gydol y flwyddyn. Mae’r daflen gan Goleg Penybont yn enghraifft dda o atgoffa staff.
- Colegau i gynnal gweithgarddau cyson i godi ymwybyddiaeth am ddigwyddiadau cenedlaethol tebyg i’r Wythnos Gofalwyr a Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, yn ystod cyfarfodydd staff, sesiynau tiwtorial neu wasanaethau. Gall hyn wella ymwybyddiaeth ymysg myfyrwyr yn ogystal â staff.
Mae angen i ni fod yn addysgu staff a myfyrwyr am lawer o bethau am ofalwyr ifanc: beth i’w wneud, y straen a’r pryder sy’n dod gyda hynny, i ddeall er na allwn bob amser gadw at amserlenni, y gallwn weithiau deimlo ein bod yn cael ein llethu … efallai na fedrwn aros yn hwyr yn y coleg, efallai fod angen i ni fynd adre yn ôl i’n rôl o ofalwr ac y medrem fod yn hwyr neu hyd yn oed fethu dod o gwbl. Felly mae’n wirioneddol bwysig fod myfyrwyr ac athrawon yn cael eu haddysgu am hynny i gyd).
Astudiaeth achos ymarfer da: Codi ymwybyddiaeth ymysg staff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe ddull aml-agweddog i godi ymwybyddiaeth ymysg staff am oedolion ifanc sy’n gofalu. Mae hyn yn cynnwys anfon e-byst cyson at Benaethiaid Adrannau i’w hysbysu am nifer yr oedolion ifanc sy’n gofalu yn eu hadran a’u hanghenion cymorth; ymuno â chyfarfodydd uwch arweinwyr i’w diweddaru ar y cymorth y mae’r coleg yn ei gynnig i oedolion ifanc sy’n gofalu a chynnwys gwybodaeth ar oedolion ifanc sy’n gofalu mewn sesiynau cynefino staff.
Mae oedolion ifanc sy’n gofalu yn dweud ei bod yn bwysig bod hyfforddiant staff yn cynnwys:
- Sut i adnabod oedolion ifanc sy’n gofalu – sylwi ar yr arwyddion y gallai rhywun fod â chyfrifoldebau gofalu a helpu pobl ifanc eu hunain i sylweddoli y gallent fod yn ofalwyr, fel y gallant gael mynediad i gymorth addas.
- Yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn oedolyn ifanc sy’n gofalu yn y coleg – mae pobl ifanc yn awgrymu cynnwys taflenni neu fideos o bobl ifanc yn dangos “diwrnod ym mywyd” oedolyn ifanc sy’n gofalu i ddangos yr effaith y gall hyn ei gael ar eu dysgu. Gallwch ddefnyddio’r enghraifft o daflen “diwrnod ym mywyd” yn unrhyw hyfforddiant a roddwch i’r staff.
- Y cymorth sydd ar gael yn y coleg ac yn eu hardal leol i oedolion ifanc sy’n gofalu , fel y gall staff helpu pobl ifanc i gael mynediad i hyn a’u cyfeirio at y tîm, aelod o staff neu wasanaeth cywir.
Yn amlwg, hwn yw ein tro cyntaf ninnau yn gofalu. Felly nid ydym yn gwybod bob amser pa gymorth sydd ei angen … Felly mae cael pobl yn y proffesiwn sy’n gwybod ychydig bach yn fwy hyd yn oed na ni, i fedru ein cyfeirio .. ac i ni i siarad gyda nhw os ydyn ni angen yr wybodaeth.
- Cymryd dull ystyriol o drawma i gefnogi oedolion ifanc sy’n gofalu – bod yn empathetig (ond nid dangos trueni) a disylw, gofyn cwestiynau cyn neidio i gasgliadau a deall efallai nad yw’r coleg yn flaenoriaeth i berson ifanc ar unrhyw ddiwrnod penodol.
Astudiaeth achos arfer da: Hyfforddiant ar gyfer tiwtoriaid bugeiliol yng Ngholeg Dewi Sant
Yng Ngholeg Dewi Sant mae’r rhan fwyaf o diwtoriaid bugeiliol newydd gwblhau cwrs-ar-lein gan EduCare ar oedolion ifanc sy’n gofalu. Roedd hyn yn cynnwys arwyddion y gallai ddangos fod rhywun yn oedolyn ifanc sy’n gofalu, eu hawliau yn y gyfraith, pa gymorth y medrent fod ei angen a sut y gall staff helpu. Mae tiwtoriaid bugeiliol yn rhedeg grwpiau tiwtor y coleg fel eu bod mewn lle da i adnabod oedolyn ifanc sy’n gofalu, ac mae ganddynt nawr y sgiliau a’r wybodaeth i wneud hynny.
Cefnogi oedolion ifanc sy’n gofalu i bontio i’r coleg
Yr hyn sy’n bwysig yma:
- Rhannu data rhwng ysgolion a cholegau, fel y gall colegau adnabod gofalwyr a’u hanghenion cymorth cyn iddynt ymrestru.
- Cyfarfodydd dechreuol un-i-un gydag oedolion ifanc sy’n gofalu i siarad am eu cyfrifoldebau gofal a’r ystod llawn o gymorth sydd ar gael, a chytuno ar unrhyw addasiadau ac atgyfeiriadau i gymorth fel sy’n briodol.
- Dilyn i fyny yn gyflym gydag unrhyw bobl ifanc sy’n uniaethu fel oedolion ifanc sy’n gofalu.
Dylai cymorth ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu mewn addysg bellach ddechrau cyn iddynt roi troed yn y coleg. Dywedodd pobl ifanc wrthym fod cymorth pontio yn allweddol wrth sicrhau dechrau cadarnhaol i’w hamser yn y coleg a gostwng y tebygrwydd y bydd argyfyngau. Mae agweddau allweddol o’r cymorth ar y cam hwn yn cynnwys:
- Rhannu data rhwng ysgolion a cholegau – cael trefniadau ar waith fel y gall ysgolion rannu gwybodaeth ar ba fyfyrwyr sy’n oedolion ifanc sy’n gofalu, yr effaith y gall eu gofalu ei gael ar eu dysgu a pha gymorth maent ei angen i oresgyn hyn. Mae hyn yn cymryd y baich oddi ar bobl ifanc i uniaethu eu hunain fel gofalwyr.
Roeddwn yn cael cymorth yr holl ffordd drwy’r ysgol ac yna fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth yn yr ysgol drefnu dod i’r coleg hefo fi. Fe wnaeth fy nghyflwyno i’r cwnselydd fyddai gen i ac i fy narlithwyr – felly fe wnaeth yr ysgol yn siŵr fod gen i gymorth arall yn mynd i’r coleg.
- Cyfarfod un-i-un dechreuol gyda swyddog llesiant neu gymorth dysgu i drafod eu cyfrifoldebau gofalu a’r effaith y gallai’r rhain ei gael ar eu dysgu, cytuno ar unrhyw addasiadau a llunio cynllun cymorth ar y cyd. Dylai hyn ddigwydd yn hanner tymor cyntaf myfyriwr yn y coleg. Soniodd pobl ifanc hefyd fod hyn yn bwysig i sicrhau fod fyfyrwyr yn ofalwyr go iawn ac na fyddant yn “cam-drin y system”. Gallwch ddefnyddio’r ffurflen patrwm gofal a’r templedi cynllun cymorth unigol ar gyfer y cyfarfodydd dechreuol yma.
Mae pob sefyllfa mor wahanol fel, chi’n gwybod, dim ond ceisio defnyddio’r un pethau i ddatrys pob achos, mae’n fwy defnyddiol dod i wybod beth yw’r problemau gan bob unigolyn.
- Hysbysu oedolion ifanc sy’n gofalu am yr holl gymorth sydd ar gael, i sicrhau mynediad teg a chyson. Siaradodd llawer o bobl ifanc am anhawster gwybod pa gymorth oedd ar gael iddynt yn y coleg, ac mai dim ond pan wnaethant ofyn am hynny y cawsant gymorth. Yn lle hynny, maent yn awgrymu y dylai colegau rannu “dewislen” cymorth y gall gofalwyr ddewis o’i blith. Awgrymodd oedolyn ifanc sy’n gofalu y gellid cyflawni hyn mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys cael pecyn gwybodaeth ar eu diwrnod cyntaf, cynnwys gwybodaeth a thaflenni mewn sgyrsiau adeg ymrestru a chynefino a chynnal ffeiriau gleision gyda gwahanol staff a gwasanaethau i fyfyrwyr siarad gyda nhw. Mae cymorth arbenigol ar gyfer llyfryn myfyrwyr a siarter gofalwyr Grŵp NPTC yn enghreifftiau da o hyn.
- Dyddiau pontio neu flasu ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu i ddod yn gyfarwydd â champws y coleg, cwrdd â staff a myfyrwyr eraill a deall y cymorth sydd ar gael i’w helpu gyda dysgu. Mae hefyd yn werthfawr cael mannau tawelach ar ddyddiau ymrestru er mwyn i oedolion ifanc sy’n gofalu i siarad gyda staff am ofalu.
Rwy’n credu y byddai dyddiau blasu yn beth da i fynd a’i wneud gyda’r coleg. Oherwydd wedyn maent yn cael teimlad amdano a gwybod eu ffordd o amgylch felly nad ydyn nhw, ar eu diwrnod cyntaf, yn cael anhawster a phoeni am lle mae’r dosbarthiadau …. mae’n cael gwared â mwy o’r pryder.
Astudiaeth achos ymarfer da: Pasbortau disgyblion a chefnogi pontio yng Ngrŵp Llandrillo Menai
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn defnyddio pasbortau disgyblion i gefnogi rhannu data gydag ysgolion. Gall staff ysgol lanlwytho gwybodaeth am fyfyrwyr – yn cynnwys y ffaith eu bod yn oedolion ifanc sy’n gofalu.
Mae gan y coleg swyddogion pontio sy’n gweithio gyda myfyrwyr y dynodwyd eu bod angen cymorth ychwanegol cyn ymrestru. Gallant gynnig dyddiau blasu i unigolion neu grwpiau bach, siarad gyda’u hysgol i ymchwilio anghenion unigol a sicrhau fod myfyrwyr yn mynychu eu Diwrnod Croeso i’r Coleg, lle gallant gwrdd â phawb arall sydd ar eu cwrs.
Adnabod oedolion ifanc sy’n gofalu
Yr hyn sy’n bwysig yma:
- Rhoi ffyrdd lluosog a pharhaus i bobl ifanc uniaethu fel gofalwr.
- Cofnodi pwy sy’n gofalu ar system ganolog fel bod yr holl staff yn gwybod ac nad yw’n rhaid i bobl ifanc esbonio eu sefyllfaoedd dro ar ôl tro.
- Dulliau disylw a chyfrinachol o adnabod, fel nad yw pobl ifanc yn teimlo eu bod yn sefyll allan ymhlith eu cyfoedion.
Er fod pobl ifanc yn teimlo mai rhannu data rhwng ysgolion a cholegau yw’r ffordd ddelfrydol i adnabod oedolion ifanc sy’n gofalu, sylweddolant nad yw hyn bob amser yn bosibl na’n bragmatig a’i bod yn aml yn dibynnu ar y fyfyrwyr ddatgan eu rôl gofalu.
Maent yn awgrymu amrywiaeth o gamau y gall colegau eu cymryd i hwyluso hyn:
- Sicrhau fod pob ffurflen mynediad yn cynnwys yr opsiwn i fyfyrwyr uniaethu fel oedolyn ifanc sy’n gofalu – mae hyn yn cynnwys ffurflenni cais ac ymrestru, ceisiadau am Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu geisiadau am gymorth ariannol arall ac unrhyw ffurflenni cymorth i ddysgwyr.
- Rhoi ffyrdd parhaus i fyfyrwyr uniaethu fel gofalwr, tebyg i drwy sesiynau tiwtorial neu gyfarfodydd cymorth dysgu, cael aelod o staff neu gyfeiriad e-bost neilltuol i fyfyrwyr gysylltu, gweithredu blwch sylwadau neu god QR y gall myfyrwyr ei sganio a chyflwyno gwybodaeth amdanynt eu hunain.
Astudiaeth achos ymarfer da: hyb dysgwyr ar-lein Grŵp Colegau NPTC
Mae gan Grŵp NPTC hyb ar-lein i ddysgwyr lle gall myfyrwyr ddiweddaru eu cofnodion a datgan eu bod yn oedolion ifanc sy’n gofalu drwy gydol y flwyddyn. Mae ffurflen fer ar yr hyb yn gofyn am fwy o fanylion am eu cyfrifoldebau gofalu ac anghenion cymorth ac os ydynt cael eu rhoi mewn cysylltiad gyda gwasanethau lleol ar gyfer gofalwyr ifanc.
- Hyfforddi staff yn sut i adnabod oedolion ifanc sy’n gofalu, fel hyd yn oed os nad yw myfyriwr yn uniaethu â hyn eu hunain, y gall staff eu cyfeirio at gymorth a’u helpu i ddeall eu rôl fel gofalwr.
- Cofnodi dulliau adnabod oedolion ifanc sy’n gofalu ar system ganolog, felly unwaith y bydd un aelod o staff yn gwybod fod myfyriwr yn ofalwr, caiff hyn ei rannu ar draws timau ac nid yw pobl ifanc yn gorfod datgan hynny i wahanol athrawon dro ar ôl tro.
Mae’r holl athrawon yn gwybod oherwydd fod gen i rywbeth ar fy ffeil neu rywbeth. Ac os ydw i yn anfon neges atyn nhw a dweud mod i’n gorfod gadael yn gynnar neu gyrraedd yn hwyr, maen nhw’ dweud dim problem.
- Creu ffordd ddisylw i oedolion ifanc sy’n gofalu uniaethu eu hunain i staff, heb orfod ceisio esbonio eu sefyllfa dro ar ôl tro neu o flaen myfyrwyr eraill. Mae awgrymiadau yn cynnwys cael bathodyn bach neu logo ar eu cerdyn myfyriwr, cael cerdyn adnabod ar wahân ar gyfer gofalwyr ifanc neu gael laniard gwahanol lliw. Gallai hyn adeiladu ar y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc a gafodd ei greu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
Mae angen i chi fedru uniaethu fel gofalwr ifanc ar bob cam, yn ddelfrydol heb orfod esbonio hynny. Felly dim ond cael cerdyn sy’n gweithio a’ch bod yn gwybod sut i’w ddefnyddio ar gyfer popeth. Ac mae fel ‘edrychwch, mae hwn gen i. Rydw i angen hyn’.
Astudiaeth achos arfer da: Cardiau adnabod digidol i ofalwyr ifanc yng Ngholeg Penybont
Mae Coleg Penybont wedi diweddaru eu cardiau adnabod ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu fel eu bod yn ddigidol. Gall myfyrwyr gadw hyn ar ei ffôn a’i ddangos i athrawon os oes angen iddynt adael yn gynnar neu gael seibiant byr o’r dosbarth, heb ofyn cwestiynau. Fodd bynnag, os yw hyn yn digwydd yn gyson, caiff hyn ei nodi ar y system staff mewnol a gall tîm llesiant holi i weld os yw’r person ifanc angen unrhyw gymorth ychwanegol.
- Hyrwyddo cymorth i ofalwyr a manylion arweinydd y coleg ar gyfer gofalwyr – soniodd pobl ifanc fod myfyrwyr yn fwy tebyg o ddweud wrth goleg os ydynt yn ofalwyr os ydynt yn deall y gallant gael mynediad i gymorth ychwanegol a bod aelod neilltuol o staff sy’n deall oedolion ifanc sy’n gofalu. Mae taflen oedolion ifanc sy’n gofalu Coleg Gŵyr Abertawe yn enghraifft dda o hyn.
Ei gwneud yn hysbys eu bod yn cynnig cymorth oherwydd bydd llawer o ofalwyr ifanc yn meddwl ‘wel, dydyn nhw ddim yn mynd i roi cymorth i fi beth bynnag, felly nid yw’n gwneud fawr o wahaniaeth os ydyn nhw’n gwybod ai peidio.
- Ei gwneud yn glir fod cymorth yn ddisylw a chyfrinachol – dywedodd oedolion ifanc sy’n gofalu wrthym eu bod yn fwy tebyg o gysylltu os ydynt yn hyderus y caiff yr wybodaeth a roddant ei chadw’n gyfrinachol rhag myfyrwyr eraill, ac mai dim ond yr wybodaeth hanfodol sydd ei hangen gaiff ei rhannu gydag aelodau eraill o staff.
Rydw i hefyd yn credu fod ei gwneud yn glir os ydych chi’n cysylltu, na fyddan nhw’n gwneud rhyw gyhoeddiad mawr mai dyma beth ydych chi. Os ydych chi eisiau’r cymorth, mae’r cymorth yno, ac os ydych eisiau’r cymorth yn dawel, gallwch gael hynny yn dawel … Oherwydd rwy’n credu fod rhai pobl yn poeni amdano, ‘O, bobl bach, ond wedyn mae pawb yn mynd i wybod;’.
Astudiaeth achos arfer da: “Gwarchodwyr” cyfoedion yng Ngholeg Sir Benfro
Mae gan Goleg Sir Benfro 12 o “warchodwyr cyfoedion” sydd yn ddysgwyr a gafodd hyfforddiant mewn materion diogelu a mentora, i weithredu fel cymorth cyfoedion ar gyfer myfyrwyr eraill. Os oes gan unrhyw fyfyriwr broblem, gallant siarad gyda gwarchodwr cyfoedion. Gall gwarchodwyr cyfoedion wedyn roi’r wybodaeth i aelodau perthnasol o staff i sicrhau fod cymorth addas ar gael. Mae hyn yn cynnwys oedolion ifanc sy’n gofalu a all deimlo’n fwy cysurus yn siarad gyda myfyriwr arall na gydag aelod o staff am eu rôl gofalu.
Cyfathrebu’n effeithlon gydag oedolion ifanc sy’n gofalu
Yr hyn sy’n bwysig yma:
- Dylai colegau ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gyfathrebu gydag oedolion ifanc sy’n gofalu, gan fod y dulliau gorau ar gyfer gwahanol fyfyrwyr yn gwahaniaethu.
- Mae oedolion ifanc sy’n gofalu eisiau gwybod am yr ystod lawn o gymorth sydd ar gael gan eu coleg a manylion eu harweinydd gofalwyr penodol.
- Dylai colegau gynnwys oedolion ifanc sy’n gofalu wrth lunio posteri, taflenni a mathau eraill o gyfathrebu a anelwyd at myfyrwyr gyda chyfrifoldebau gofalu.
Mae oedolion ifanc sy’n gofalu yn awgrymu llawer o wahanol ffyrdd y gall colegau cyfathrebu gyda nhw’n effeithlon. Dywedant fod gwahanol bobl yn edrych ar, darllen ac ymgysylltu gyda gwahanol fathau o gyfathrebiadau, felly mae’n bwysig fod colegau’n defnyddio amrywiaeth o lwybrau cyfathrebu Mae awgrymiadau ar gyfer cyfathrebu uniongyrchol gydag oedolion ifanc sy’n gofalu yn cynnwys:
- Creu Fforwm i Oedolion Ifanc sy’n Golegau, y gall colegau ei gynnull bob blwyddyn i’w gynnwys wrth wneud penderfyniadau am y cymorth a gynigiant i oedolion ifanc sy’n gofalu; beth a sut y dylid cyfathrebu hyn i fyfyrwyr; pynciau ar gyfer hyfforddiant staff, ac adolygu polisïau neu brosesau ac adnoddau newydd. Mae hyn yn gydnaws â’r cod ymgysylltu dysgwyr. Gallai aelodau’r Fforwm hefyd weithredu fel cynrychiolwyr ar gyfer oedolion ifanc eraill sy’n gofalu i godi materion gyda nhw, y gellir wedyn eu bwydo’n ôl i aelodau uwch o staff. Gallent hefyd helpu i godi ymwybyddiaeth o oedolion ifanc sy’n gofalu ymysg myfyrwyr, cyd-gyflwyno hyfforddiant staff a hyrwyddo’r cynnig sydd ar gael yn y coleg.
…bod â chyngor bach o ofalwyr ifanc fel y gallwch siarad gyda’r bobl yno am y problemau, tebyg i ffurfio grŵp o ofalwyr ifanc ac athrawon mewn grŵp bach fel y gall pobl siarad gyda’r gofalwyr ifanc ac y gallai’r gofalwyr ifanc siarad gyda phennaeth y coleg neu bennaeth llesiant neu’r pennaeth diogelwch, fel y gall pobl newid pethau.
- Anfon llythyrau drwy’r post ar ddechrau’r flwyddyn, yn amlinellu’r cymorth sydd ar gael yn y coleg a chysylltiadau allweddol. Dywedodd pobl ifanc eu bod nhw (neu eu rhieni) yn fwy tebygol o edrych ar lythyrau na negeseuon e-bost neu negeseuon testun gan eu bod yn cael llawer o negeseuon sbam yn eu mewnflychau.
- Defnyddio negeseuon testun a WhatsApp ar gyfer cysylltu ac atgoffa am ddigwyddiadau neu’r cymorth sydd ar gael.
- Anfon e-byst gyda gwybodaeth mwy sylweddol, er fod gwahaniaeth barn os y byddai’r rhain yn cael eu darllen ai peidio.
- Creu grwpiau ar-lein neu sianeli Teams ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu, fel y gallai staff a phobl ifanc rannu gwybodaeth ar ffynonellau cymorth a digwyddiadau cysylltiedig.
- Creating anonymous surveys to capture feedback from students and potentially identify more young adult carers, if there is an option to add their name.
Astudiaeth achos arfer da: Cyfathrebu’n uniongyrchol gydag oedolion ifanc sy’n gofalu
Soniodd tri choleg am ddulliau effeithiol i gyfathrebu’n uniongyrchol gydag oedolion ifanc sy’n gofalu:
- Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae’r holl oedolion ifanc sy’n gofalu a ddynodwyd yn derbyn e-bost ar ddechrau’r flwyddyn gyda’r cynnig llawn o gymorth sydd ar gael iddynt a chopi o bolisi’r coleg ar ofalwyr ifanc, y mae oedolion ifanc sy’n gofalu wedi medru cyfrannu ato.
- Mae Coleg Penybont wedi creu gofod ar-lein ar eu mewnrwyd ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu. Gallant roi negeseuon am y cymorth sydd ar gael, sesiynau galw heibio a digwyddiadau ar y gweill, dolenni i wasanaethau allanol a ffynonellau cymorth, a galluogi pobl ifanc i sgwrsio gyda’i gilydd.
- Mae Coleg y Cymoedd wedi creu sianel Microsoft Teams ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu. Defnyddiant hyn i rannu negeseuon a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael a digwyddiadau sydd ar y gweill.
Mae’r awgrymiadau ar gyfer cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth yn ehangach yn cynnwys:
- Hysbysebu’r cymorth llawn sydd ar gael ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu ar wefan y coleg, y cyfryngau cymdeithasol (yn arbennig TikTok ac Instagram) a phrosbectysau. Mae llyfryn cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a siarter myfyrwyr Grŵp NPTC yn enghreifftiau da o hyn.
Dangos yr holl wasanaethau sydd ar gael ar y wefan neu ar y dudalen ymrestru. Pethau fel os oes unrhyw grantiau y gallwch eu cael, os oes llesiant, os oes talebau bwyd, pas bws, unrhyw beth … neu cyn gynted ag ydych yn dechrau, os oes cyfarfod neu rywbeth, wirioneddol ddweud wrth bawb am yr holl help sydd ar gael.
- Hyrwyddo manylion arweinydd/arweinwyr gyrfa dynodedig y coleg o amgylch y campws, gan ddefnyddio posteri, taflenni a sgriniau gwybodaeth. Gallai’r rhain gael eu cynllunio gan oedolion ifanc sy’n gofalu i’w gwneud yn fwy deniadol.
- Cynnwys gwybodaeth ar gymorth ac arweinwyr dynodedig mewn sgyrsiau yn ystod ymweliadau ysgol, dyddiau agored, ymrestru, sesiynau cynefino a sesiynau tiwtorial.
- Cynnwys erthyglau neu adrannau mewn cylchlythyrau myfyrwyr am gymorth i oedolion ifanc sy’n gofalu ac unrhyw ddigwyddiadau neu dyddiau codi ymwybyddiaeth sydd ar y gweill..
- Cyflwyno diwrnodau, gwasanaethau neu wersi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc fel bod myfyrwyr eraill yn dysgu am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn oedolyn ifanc sy’n gofalu a helpu mwy o bobl ifanc i hunan uniaethu.
Astudiaeth achos ymarfer da: Hyrwyddo cymorth i oedolion ifanc sy’n gofalu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio gwahanol ffyrdd i hyrwyddo’r cymorth a gynigir i oedolion ifanc. Defnyddiant ddigwyddiadau cenedlaethol fel yr Wythnos Gofalwyr i roi sylw i gymorth yn y coleg, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a’u mewnrwyd a chynnwys gwybodaeth ar eu pyrth dysgwyr a chanllawiau electronig i fyfyrwyr. Maent hefyd yn gosod posteri sy’n cynnwys manylion a lluniau arweinwyr gofalwyr o amgylch campysau’r coleg.
Cymorth parhaus
Mae’r adran hon yn nodi’r gwahanol fathau o gymorth y mae oedolion ifanc sy’n gofalu yn credu sy’n bwysig i alluogi myfyrwyr gyda chyfrifoldebau gofalu i ymgysylltu, cyflawni a symud ymlaen mewn addysg bellach. Cânt eu grwpio yn gymorth ariannol, cymorth llesiant, cymorth dysgu a chymorth gyda chyflogadwyedd a chynnydd.
Cymorth ariannol
Mae costau yn ffactor allweddol wrth i oedolion ifanc sy’n gofalu benderfynu pa golegau a chyrsiau i wneud cais amdanynt. Mae eu teuluoedd yn aml yn gyfyngedig yn eu gallu i weithio neu caiff llawer o incwm yr aelwyd ei wario ar gefnogi’r person y maent yn gofalu amdano/amdani.
Felly, mae cymorth ariannol yn allweddol wrth helpu oedolion ifanc sy’n gofalu i oresgyn rhwystrau cost addysg bellach a ymwneud yn fwy cyson mewn dysgu.
Mae’r cymorth ariannol y soniodd oedolion ifanc sy’n gofalu amdano yn cynnwys:
- Absenoldeb wedi eu awdurdodi ar gyfer taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg –dyma elfen bwysicaf y cymorth ariannol a ddynodwyd gan oedolion ifanc sy’n gofalu. Mae hyblygrwydd ar absenoldeb wedi ei awdurdodi ar gyfer y Lwfans yn allweddol wrth eu galluogi i barhau i fynychu a chyflawni yn y coleg. Lle nad yw hyn ar gael, mae pobl ifanc yn gyflym yn mynd ynghlwm mewn troell o fethu fforddio mynd i’r coleg sy’n golygu peidio derbyn taliadau’r Lwfans ac mae’r cylch yn parhau.
- Cludiant – mae pasiau bws ar gyfer bws coleg neilltuol yn ddefnyddiol ond mae gostyngiadau neu basiau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus gyffredinol yn well, er mwyn galluogi pobl ifanc i fynd adre a dychwelyd i’r coleg yr un diwrnod os oes angen.
- Dileu ffioedd ymrestru a ffioedd cais – mae pobl ifanc yn tanlinellu pwysigrwydd bod yn glir am unrhyw ffioedd ac yn union faint ydynt, ond hefyd yn werthfawrogol iawn os yw colegau’n eu dileu ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu.
- Offer – yn arbennig ar gyfer y rhai ar gyrsiau ymarferol sydd angen gwisg arbennig, deunyddiau, offer ac yn y blaen. Mae pobl ifanc hefyd yn gwerthfawrogi help gyda chost llyfrau.
- Costau cinio a/neu fanc bwyd – mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi bod costau prydau bwyd yn cael eu talu pan maent yn y coleg neu fedru mynd â bwyd adre ar gyfer y penwythnos.
- Hyblygrwydd ar drothwy incwm aelwyd ar gyfer cronfeydd ariannol wrth gefn a’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg – mae rhai colegau yn hyblyg ar y trothwyon hyn ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu, i gydnabod costau ychwanegol gofalu.
Astudiaeth achos ymarfer da: Cymorth ariannol yng Ngholeg y Cymoedd
Mae Coleg y Cymoedd yn cydnabod y gall arian fod yn her ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu, felly mae ganddo amrywiaeth o fathau cymorth ar waith i lacio pwysau ariannol coleg. Mae pob gofalwr yn derbyn £7 y dydd ar eu cerdyn myfyrwyr i dalu am ginio a threuliau bach eraill. Maent hefyd yn hwyluso mynediad oedolion ifanc sy’n gofalu i’r gronfa ariannol wrth gefn fel y gallant gael eu talu am eu costau teithio ac offer o ddechrau’r flwyddyn. Mae gan yr coleg bartneriaeth gyda’r eglwys leol sy’n trefnu bwyd i oedolion ifanc sy’n gofalu a myfyrwyr eraill lle gall oedolion ifanc sy’n gofalu gasglu bara, teisennau a snaciau bob wythnos.
Cymorth llesiant
Mae iechyd meddwl yn her sylweddol i lawer o oedolion ifanc sy’n gofalu. Mae gofalu yn gadael ei ôl ar lesiant pobl ifanc, gyda straen a phryder am y person y gofalant amdano/amdani yn pwyso ar eu meddyliau. felly, mae cymorth llesiant yn elfen allweddol o’r help mae oedolion ifanc sy’n gofalu yn ei werthfawrogi yn y coleg.
Mae elfennau allweddol cymorth llesiant da y soniodd oedolion ifanc sy’n gofalu amdanynt yn cynnwys:
Cael rhywun i siarad gyda nhw a dadlwytho – mae cael amserau galw heibio rheolaidd neu wybod pwy yn y tîm llesiant y gallant siarad gyda nhw yn bwysig i oedolion ifanc sy’n gofalu sy’n aml ond angen rhywun i drafod pethau gyda nhw. Nid yw’n rhaid i hyn bob amser fod yn gwnsela ffurfiol gyda gweithwyr proffesiynol wedi’i hyfforddi – byddai rhywun sydd yn barod i wrando a chydymdeimlo yn ddefnyddiol.
Byddai cael hyd yn oed unigolyn heb gymwysterau i fynd atynt a dweud ‘O, yma fy wythnos i, roedd yn galed iawn’ a chael dadlwytho a’i ddweud yn uchel … nid yw’n rhaid iddo fod yn therapi bob tro.
- Rhywun yn cysylltu â nhw yn gyson – yn debyg i’r uchod, mae cael rhywun sy’n cysylltu â nhw yn rheolaidd i weld sut maent yn gwneud yn bwysig i oedolion ifanc sy’n gofalu. Mae hyn yn eu helpu i deimlo eu bod o bwys i’r coleg a hefyd yn eu hatgoffa am y cymorth sydd ar gael iddynt.
- Dealltwriaeth ac empathi gan athrawon ac aelodau eraill o staff – mae hyn yn hanfodol ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu, sy’n tanlinellu fod cael staff yn eu deall a’u derbyn yn gwneud byd o wahaniaeth iddynt yn y coleg. Yn arbennig, ni ddylai pobl ifanc gael eu “beirniadu” am gyrraedd yn hwyr, colli’r coleg neu ddyddiadau cau. Yn lle hynny, maent eisiau i athrawon gymryd dull ystyriol o drawma ac ymchwilio pam fod hyn yn digwydd a pha gymorth arall y gallant fod ei angen.
Fel y person yn y dderbynfa y llynedd, pan oeddwn yn cyrraedd yn hwyr neu orfod dod ar fy meic ar ôl colli’r bws i’r ysgol. Ond fe fyddai hyd yn oed gwneud pethau bach fel gadael i mi roi fy helmet dan ei desg. Mae dangos ychydig o gydymdeimlad yn mynd ymhell.
- Cymorth cyfoedion – gall hyn fod yn bwysig i oedolion ifanc sy’n gofalu er mwyn cynnal eu llesiant. Gall colegau gynnal grwpiau wyneb yn wyneb neu ar-lein neu fod â mannau ar-lein lle gall oedolion ifanc sy’n gofalu gysylltu a chynnig cymorth a chyngor.
- Counselling – formal counselling is very useful for young adult carers, and it is always seen as positive if college can facilitate access to this. However, young people highlight the need to ensure this is offered fairly and consistently across students, and that some don’t get quicker access than others.
- Atgyfeirio at y gwasanaeth gofalwyr ifanc lleol – mae llawer o oedolion ifanc sy’n gofalu yn derbyn cymorth llesiant sylweddol gan eu gwasanaeth gofalwyr ifanc lleol, naill ai drwy weithgareddau cymdeithasol, cysylltiadau gyda chyfoedion neu gymorth oedolyn arall dibynadwy. Felly mae sicrhau fod pobl ifanc yn gwybod am ac y cânt eu cyfeirio at y gwasanaeth gofalwyr ifanc lleol (os dymunant) yn ffordd effeithlon i gefnogi llesiant oedolion ifanc sy’n gofalu.
Astudiaeth achos ymarfer da: Cyfarfodydd bob tymor yng Ngholeg Dewi Sant
Yng Ngholeg Dewi Sant mae’r Swyddog Iechyd Meddwl yn cwrdd bob tymor ag oedolion ifanc sy’n gofalu. Cyn iddi gwrdd â’r myfyrwyr, mae’n cysylltu â’u holl athrawon i holi sut maent yn gwneud, os oes unrhyw bryderon ac os ydynt yn ymgysylltu ac yn cadw at amserlenni, fel y gallant godi hyn yn y cyfarfod gyda’r myfyriwr. Gall y myfyriwr ddod â pherthynas agos gyda nhw os dymunant. Mae ffocws y cyfarfod ar eu llesiant, sut y maent yn dod ymlaen yn y coleg a pha gymorth arall fedrai fod ar gael i’w helpu i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yn y coleg.
Cymorth dysgu
Soniodd oedolion ifanc sy’n gofalu am amrywiaeth o gymorth y gall colegau roi yn ei le i’w galluogi i ymgysylltu a chyflawni ar eu rhaglenni dysgu. Mae hyn yn cynnwys:
- Mynediad i ffonau symudol – mae hyn yn bwysig i oedolion ifanc sy’n gofalu fel y gallant fod yn siŵr na fyddant yn colli galwad pwysig gan neu am y person y maent yn gofalu amdanynt, gan felly ostwng eu pryder a’u galluogi i ganolbwyntio mewn gwersi.
Mae hefyd yn anodd os ydych yn poeni am y person neu’r bobl yr ydych yn gofalu amdanynt oherwydd mae’n mynd â’ch holl sylw, mae’n anodd iawn canolbwyntio ar rywbeth arall .. felly cael eich ffôn, wyneb i lawr neu rywbeth, a chael sŵn hysbysu rhag ofn eich bod yn cael neges destun argyfwng.
- Hyblygrwydd am ddyddiadau cau – nid yw gofalu yn gyson bob amser: gall fod yn fwy neu llai anodd yn dibynnu ar iechyd y person sy’n derbyn gofal, apwyntiadau ac ymrwymiadau eraill. Felly gall cael ychydig ddyddiau o estyniad ar ddyddiadau cau helpu oedolion ifanc sy’n gofalu pan fo’u dyletswyddau gofalu yn drwm.
- Hyblygrwydd ar bresenoldeb – yn yr un modd, gall gofalu olygu fod angen i bobl ifanc fynychu apwyntiadau, mynd â’u brodyr a’u chwiorydd i’r ysgol neu fod adref ar rai adegau o’r dydd. Mae oedolion ifanc sy’n gofalu yn gwerthfawrogi staff sy’n deall hyn ac yn eu hesgusodi am gyrraedd yn hwyr neu adael yn gynnar, neu weithiau beidio dod i’r coleg o gwbl.
- Opsiynau i ymuno â gwersi o adre neu wneud gwaith o bell – yn gysylltiedig â’r pwynt blaenorol, weithiau mae oedolion ifanc sy’n gofalu angen cymorth i ddal i fyny neu ymuno â gwersi o bell, os yw eu cyfrifoldebau gofalu yn eu hatal rhag dod i’r coleg.
- Man tawel i astudio ac adolygu – gall eu cartrefi fod yn lle dwys a phrysur iawn i oedolion ifanc sy’n gofalu; o’r herwydd, nid oes ganddynt bob amser yr amser a’r lle i gwblhau gwaith cwrs tu allan i’r coleg. Gall cael lle tawel i astudio mewn canolfan cymorth dysgu eu helpu i aros ar y trywydd gyda’u gwaith. Mae oedolion ifanc sy’n gofalu hefyd yn gwerthfawrogi medru defnyddio’r lle hwn i gael seibiant o brysurdeb y campws neu i wneud ffonio adref yn breifat.
Mae ganddyn nhw bodiau yn y ganolfan cefnogi dysgu, felly os yw’r wers yn ormod i fi neu os oedd mam yn cael diwrnod gwael a bod angen i mi siarad gyda hi, roeddwn yn gallu mynd i mewn i un o’r podiau i’w ffonio.
- Ffyrdd i rannu os yw pethau wedi newid adref – er y byddai oedolion ifanc sy’n gofalu yn hoffi cyfarfod i drafod eu hanghenion gofalu a chymorth ar ddechrau’r flwyddyn, maent hefyd eisiau ffyrdd syml i ddiweddaru staff cefnogi dysgu pan mae pethau’n newid adref, gan y gall iechyd ac anghenion y person y maent yn gofalu amdano/amdani newid ar fyr rybudd.
- Mynediad i adnabod ac asesu anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau – mae’n bwysig sylweddoli y gall oedolion ifanc sy’n gofalu hefyd fod ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau. Mae cymorth amserol i helpu dynodi a deall yr anghenion hyn, ynghyd â mynediad i asesiad priodol a, lle’n berthnasol, ddiagnosis ar gyfer cyflyrau tebyg i ddyslecsia, ADHD ac awtistiaeth, yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan oedolion ifanc sy’n gofalu.
Cafodd pawb oedd yn ofalwr ifanc gyfle i wneud y prawf i weld os oeddech angen unrhyw gymorth ychwanegol yn yr arholiadau, fel seibiant, amser ychwanegol, pethau felly. Roeddwn i eu hangen, felly roedd hynny’n dda.
Astudiaeth achos ymarfer da: Sesiynau sgilio astudio Grŵp Llandrillo Menai
Yn ogystal â bod yn hyblyg gydag amserlenni i ffitio o amgylch cyfrifoldebau gofalwyr, mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig sesiynau sgiiau astudio y gall oedolion ifanc sy’n gofalu – a dysgwyr arall – fynd iddynt i ddal i fyny ar unrhyw waith y maent wedi ei golli oherwydd iddynt fod i ffwrdd o’r coleg.
Cymorth cyflogadwyedd a chynnydd
Mae pwysau ariannol adref, ynghyd â’r cyfyngiadau y mae eu rôl gofalu yn roi arnynt, yn golygu fod oedolion ifanc sy’n gofalu angen cymorth cyflogadwyedd wedi ei deilwra er mwyn eu helpu i sicrhau gwaith pan fyddant yn y coleg a hefyd i feddwl am eu gyrfaoedd hirdymor.
Mae cymorth cyflogadwyedd da yn y coleg ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu yn cynnwys:
- Cymorth unigol i gael swydd pan fyddant yn mynychu’r coleg – derbyn cymorth wedi ei deilwra gan swyddog cyflogadwyedd i’w helpu i ddod o hyd i swydd ran-amser sy’n ffitio o amgylch y coleg a gofalu. Dylai colegau fod yn rhagweithiol wrth hyrwyddo’r cymorth cyflogadwyedd sydd ar gael drwy eu Swyddfeydd Cyflogaeth a Menter i oedolion ifanc sy’n gofalu.
Helpu gofalwyr ifanc i ddod o hyd i swydd ac wedyn unwaith y maent wedi cael y swydd, rhoi cymorth iddynt tu allan i’r swydd yn y coleg. Felly mynd ‘mewn gwirionedd, dyma sut y gallwn eich helpu i wneud yn well yn eich swydd, dyma sut y gallwn eich cefnogi yn eich swydd ac wedyn dyma’r swydd y gallwn eich cefnogi ynddi’.
- Cymorth i ddatblygu sgiliau menter ac entrepreneuraidd – gall bod yn hunangyflogedig fod yn addas ar gyfer oedolion ifanc sy’n gofalu gan y gall eu galluogi i ffitio gwaith o amgylch eu cyfrifoldebau gofalu. Gall colegau gefnogi oedolion ifanc sy’n gofalu i ddatblygu’r sgiliau hyn drwy eu Swyddfeydd Cyflogaeth a Menter a dylent wneud hyn yn glir pan fyddant yn hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.
- Gweithgareddau cyflogwyr i godi uchelgais – mae hyn yn cynnwys ymweliadau gweithle, dyddiau gwybodaeth am yrfaoedd a sgyrsiau gyrfaoedd gan ofalwyr mewn gwahanol broffesiynau, i gyd gyda ffocws ar gymorth a hawliau gofalwyr yn y gwaith. Mae oedolion ifanc sy’n gofalu hefyd yn gwerthfawrogi cyfleoedd profiad gwaith ond yn sylweddoli y gall hyn fod yn anodd i golegau eu sicrhau ar gyfer myfyrwyr felly teimlant fod y gweithgareddau eraill hyn yn ddewisiadau eraill defnyddiol.
- Eglurdeb am lwybrau dilyniant posibl – bod yn glir mewn gwybodaeth am gyrsiau ar wefannau ac mewn prosbectysau am y llwybrau dilyniant a gyrfaoedd tebygol ar gyfer myfyrwyr ar ôl cwblhau cwrs.
- Cyngor gyrfaoedd i feddwl am y camau nesaf ar ôl y coleg – mae oedolion ifanc sy’n gofalu eisiau’r mewnbwn hwn yn gynnar yn eu rhaglenni dysgu fel fod ganddynt amser i roi’r cyngor ar waith cyn iddynt orffen eu cwrs. Gall staff hefyd eu hannog i ymchwilio eu hopsiynau eu hunain drwy Gyrfa Cymru.
Oherwydd lawer o’r amser, yn arbennig gyda chyngor gyrfaoedd, ni fyddwch yn deall pethau nes byddwch ar fin gadael … Rwy’n gwybod fod sefyllfaoedd nawr lle mae problem wedi bod oherwydd nad oedd pobl wedi sylweddoli y gallent fod angen rhywbeth ychwanegol ac yn amlwg oherwydd eu rôl gofalu, nid ydynt wedi medru cael hynny. Pe byddai’n gyson drwy gydol yr amser byddent wedi gwybod hynny.
- Cymorth arbenigol am opsiynau prifysgol – mae hyn yn cynnwys help unigol i feddwl drwy ffactorau fydd yn dylanwadu ar benderfyniadau am y brifysgol, tebyg i leoliad, pellter o adref, goresgyn euogrwydd am adael, edrych ar gymorth ar gyfer gofalwyr ifanc mewn addysg uwch gan brifysgolion unigol. Gall Ymestyn yn Uwch hefyd helpu colegau i godi uchelgais gyrfa oedolion ifanc am fynychu prifysgol
- Help i ganfod lleoliadau a phrentisiaethau – mae’r rhai ar gyrsiau mwy o’u cartrefi a phrentisiaethau neu raglenni dysgu eraill seiliedig ar waith i symud iddynt ar ôl y coleg.
Astudiaeth achos ymarfer da: Traciwr ymgysylltu yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro
Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro draciwr ymgysylltu – meddalwedd y gall dysgwyr ei ddefnyddio i dracio eu cynnydd a gwirio eu bod ar y trywydd i gyflawni’r hyn maent ei angen i symud i’r cam nesaf a ddymunant ar ôl y coleg. Mae’r coleg hefyd yn defnyddio dull “tîm o amgylch y dysgwr” ar gyfer rhai sy’n wynebu heriau wrth fynychu neu ymgysylltu; mae’r cyfarfodydd hyn yn dod ynghyd â’r holl staff sy’n gweithio gyda’r dysgwr i nodi cymorth ychwanegol a allai fod o fudd iddynt. Mae’r cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar gynnydd o’r ail dymor ymlaen.

