Darganfod ein holl waith
6 Tachwedd 2025
Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru
Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
23 Hydref 2025
Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gael achrediad fel Cyflogwr Pensiwn Byw
Mae’r Pensiwn Byw yn darged cynilion gwirfoddol ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau helpu gweithwyr, yn arbennig y rhai ar gyflog isel, i grynhoi pot pensiwn fydd yn rhoi digon o incwm i ddiwallu anghenion beunyddiol sylfaenol mewn ymddeoliad. Cafodd ei lansio ym mis Mawrth 2023.
21 Hydref 2025
Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru
Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.
15 Hydref 2025
Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi’r Adroddiad Effaith diweddaraf ar gyfer 2024-25
Ein gweledigaeth yw cymdeithas deg a llewyrchus lle mae dysgu a gwaith yn galluogi pawb i wireddu eu potensial. Mae ein hadroddiad effaith diweddaraf yn rhoi sylw i’n gwaith rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.
13 Hydref 2025
Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi Cyfarwyddwr newydd ar gyfer Cymru
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith heddiw wedi cyhoeddi penodiad Michelle Matheron yn Gyfarwyddwr Cymru Dysgu a Gwaith.
10 Hydref 2025
Paid Stopio Dysgu: Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion Eleni
Fis diwethaf roedd Abertawe yn llawn dathlu wrth i ni anrhydeddu llwyddiannau anhygoel dysgwyr sy’n oedolion yn y seremoni wobrwyo. Roedd yr ystafell yn llawn emosiwn, cynhesrwydd a straeon grymus am ddyfalbarhad a llwyddiant. Mae pob stori yn enghraifft wych o effaith dysgu gydol oes fel catalydd ar gyfer newid sy’n agor drysau, yn meithrin hyder ac yn sbarduno gwir drawsnewid.
16 Medi 2025
16 Medi 2025
Datgloi Potensial Dysgu Cymru: Pam fod Addysg Oedolion yn bwysicach nag erioed
Bob mis Medi mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi sylw i rym trawsnewidiol dysgu. Mae’n gyfle i ddathlu pobl a gamodd ôl i addysg ac yn ystyried beth mwy y gallwn ei wneud i sicrhau fod cyfleoedd ar gael i bawb yng Nghymru.
16 Medi 2025
Adeiladu system cymwysterau ar gyfer y dyfodol
Yr Wythnos Addysg Oedolion yn cynnig cyfle i feddwl sut mae’r system yn gweithio ar gyfer oedolion. Yng nghyd-destun y system cymwysterau – o leiaf yng Nghymru – awgrymaf fod angen dull gweithredu dau gam: model cyn-16 yn canoli ar y Cwricwlwm newydd ac a fwriedir i feithrin cymwyseddau craidd cyn ‘arbenigo’ ôl-16, a model ôl-16 hyblyg sy’n caniatáu llwybrau arbenigol o arbenigo a gallu i newid trywydd wrth i gyfleoedd economaidd agor.
16 Medi 2025
Sgiliau newydd, cysylltiadau newydd, cyfleoedd newydd: pam fod dysgu gydol oes mor bwysig
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ein hatgoffa o’n union pa mor drawsnewidiol y gall dysgu fod ac mae thema eleni – ‘Paid Stopio Dysgu’ – yn dangos pam fod dysgu gydol oes mor bwysig. A gyda grwpiau ar draws Cymru yn darparu ystod eang o ddysgu ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer pobl hŷn, mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.