Digwyddiadau
Rydym yn cynnig digwyddiadau hanfodol a gynlluniwyd i gefnogi datblygu proffesiynol a rhwydweithio ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y sector cyflogaeth a sgiliau. I noddi neu ddod yn bartner i ni, cysylltwch â ni.
Gorffennol
Dathlu Addysg Oedolion
Dydd Iau 22 Medi 2022
Caerdydd
Yn ein digwyddiad Dathlu Addysg Oedolion clywsom drosom ein hunain straeon anhygoel enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion a arddangosodd y rhwystrau y mae dysgwyr yn gorfod eu goroesi i gyflawni eu huchelgais a sut y maae addysg wedi trawsnewid eu bywyd.
Gorffennol
Cynhadledd Addysg Oedolion: Creu cenedl ail gyfle
Dydd Iau 31 Mawrth 2022
Ar-lein
Gyda Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl ail gyfle a dyletswydd newydd i hyrwyddo dysgu gydol oes yn cael ei hystyried fel rhan o ddeddfwriaeth newydd, nid oes amser pwysicach wedi bod i’r sector godi ei lais a dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau. Cynhadledd Addysg Oedolion flynyddol hon wedi canolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wneud i wireddu’r uchelgeisiau hyn.
Gorffennol
Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru 2021
Dydd Mercher 17 Tachwedd 2021
Ar-lein
Yn ein digwyddiad Dathlu Addysg Oedolion clywsom drosom ein hunain straeon anhygoel enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion a arddangosodd y rhwystrau y mae dysgwyr yn gorfod eu goroesi i gyflawni eu huchelgais a sut y maae addysg wedi trawsnewid eu bywyd.
Gorffennol
Cynhadledd Addysg Oedolion: Cymdeithas llesiant – rôl addysg oedolion yng Nghymru yn dilyn y pandemig
Dydd Llun 22 Chwefror 2021
Ar-lein
Mae adferiad o’r pandemig coronafeirws a’r her a gyflwynir o adael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi mwy o bwysigrwydd ar rôl dysgu gydol oes i sicrhau fod gan bobl a chymunedau y gwytnwch a’r sgiliau i sboncio’n ôl a symud ymlaen.