Wrth i ni ddechrau dod allan o’r pandemig mae ffocws gwneuthurwyr polisi wedi troi at adferiad a sut y gallwn adeiladu economi gwyrddach a thecach sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Eleni bydd y Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau yn ystyried heriau allweddol y farchnad lafur sy’n wynebu Cymru fel canlyniad i’r deunaw mis diwethaf a sut y gall y sector gyflawni’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
Edrychodd ar sut ydym yn creu llwybrau ac yn cyflwyno cefnogaeth i ddysgwyr i ddychwelyd i’r farchnad lafur, i sicrhau cynnydd yn y gwaith, neu i ddechrau gyrfa newydd.
Siaradwyr:
- Vaughan Gething MS, Minister for Economy
- Nikki Lawrence, Chief Executive, Careers Wales
- Stephen Evans, Chief Executive, Learning and Work Institute
22 Medi 2026
Datgloi potensial gyda dysgu gydol oes
Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n gyfle i gydnabod na fu dysgu gydol oes erioed yn bwysicach i lwyddiant Gogledd Cymru yn y dyfodol. Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn ymadael â’r ysgol, coleg neu brifysgol. Yn economi heddiw sy’n esblygu drwy’r amser, mae datblygu sgiliau newydd ar hyd ein bywydau yn hanfodol i helpu pobl adeiladu eu hyder, addasu i newidiadau, sicrhau cynnydd yn eu gyrfaoedd a manteisio ar gyfleoedd newydd.
11 Awst 2026
Cyflenwi rhaglenni gwaith ac iechyd lleol: Cynghorion Da
Mae’r cynghorion da hyn yn rhannu gwersi ymarferol ar ddylunio, cyflenwi a gwerthuso rhaglenni gwaith ac iechyd lleol. Cawsant eu cynllunio ar gyfer y rhai sy’n llunio a chyflenwi polisi lleol a rhanbarthol, timau data a gwerthuso ac uwch wneuthurwyr penderfyniadau.
24 Gorffennaf 2026
Llywodraeth Cymru: Archwiliad Sgiliau Cymru
Cafodd Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal Archwiliad Sgiliau Cymru i ddynodi’r sgiliau sydd eu hangen yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi a thyfu economi Cymru. Beth yw Archwiliad Sgiliau Cymru? Cynhaliwyd yr archwiliad ffurfiol diwethaf o sgiliau yng Nghymru yn 2012 ac mae’r tirlun […]
13 Ionawr 2026
Rhaglen Tystiolaeth ar y Farchnad Lafur
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi comisiynu’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, i ddarparu adolygiadau tystiolaeth ac adnoddau ymarferol ar faterion allweddol y farchnad lafur i helpu llywio gwneuthurwyr polisi lleol.
26 Tachwedd 2025
Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru
Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
26 Tachwedd 2025
Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.
Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.
6 Tachwedd 2025
Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru
Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
21 Hydref 2025
Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru
Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.
8 Ebrill 2025
Serco yn cyhoeddi prosiect ymchwil ar y cyd i hybu marchnad swyddi Cymru
Mae Serco yn arwain cynllun ymchwil hollbwysig gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith sy’n anelu i sicrhau marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru.