Gyda Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl ail gyfle a dyletswydd newydd i hyrwyddo dysgu gydol oes yn cael ei hystyried fel rhan o ddeddfwriaeth newydd, nid oes amser pwysicach wedi bod i’r sector godi ei lais a dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau. Cynhadledd Addysg Oedolion flynyddol hon wedi canolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wneud i wireddu’r uchelgeisiau hyn.
Y Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn amlinellu ei weledigaeth o genedl ail gyfle. Dr Sue Pember, awdur adroddiad pwysig newydd ar wneud Cymru yn wlad dysgu gydol oes, hefyd yn nodi ei hargymhellion.
Yn ogystal â’r siaradwyr cyweirnod a thrafodaethau panel bydd gweithdai ar Taith, Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol newydd Llywodraeth Cymru ac Addysgwyr Cymru – porth gyrfaoedd, hyfforddiant a recriwtio ar gyfer addysgwyr a darpar addysgwyr yng Nghymru.
Siaradwyr:
- Scott Jenkinson, Youth Shedz Cymru
- Jeremy Miles, AS, Gweinidog y Gymraeg Ac Addysg
- Susana Galvan Hernandez, Cyfawryddwr, Taith
- Dr Sue Pember CBE, Cyfarwyddwr Polisi HOLEX
- Kathryn Robson, Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru
- Kieron Rees, Prifysgolion Cymru
- Phil Southard, Bro Morgannwg
- Kelly Fountain, Grwp Colegau NPTC
25 Medi 2026
Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd
Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.
21 Medi 2026
Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.
21 Medi 2026
Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru
Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.
21 Medi 2026
Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru
Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.
17 Medi 2026
Deall buddsoddiad cyflogwr mewn sgiliau
Mae dadansoddiad newydd yn rhybuddio y gallai cynlluniau’r Llywodraeth i gael yr economi i dyfu fethu os nad yw’n gweithredu i wrthdroi gostyngiad mawr yn yr hyfforddiant a gaiff cyflogeion yn y gwaith.
22 Mehefin 2026
Addysg oedolion yng Nghymru: Arolwg Cyfranogiad Aelodau mewn Dysgu 2025
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion. Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.
22 Mehefin 2026
Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?
Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.