Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Pam Casnewydd?

Mae Casnewydd yn tyfu’n gyflym. Mae’r cynnydd yn y boblogaeth, sîn ddiwylliannol sy’n tyfu a chysylltiadau trafnidiaeth gwych yn denu preswylwyr a busnesau newydd i’r ardal. Eto tu ôl i’r cynnydd hwn, mae heriau yn parhau. Er fod gweithgaredd economaidd cyffredinol yn gryf, dangosodd cyfrifiad 2021 gyfradd cyflogaeth sy’n llusgo ar 72.7%  o gymharu gyda 76.8% yn genedlaethol.

Mae cyrhaeddiad addysg a sgiliau hefyd yn is na lefelau cenedlaethol. Nid oes unrhyw gymwysterau gan 10% o oedolion yng Nghasnewydd, ac mae cyswllt gyda dysgu pellach yn parhau’n gyfyngedig. Mae rhanddeiliaid lleol yn sôn am amrywiaeth o rwystrau – o sgiliau isel a diffyg hyder i broblemau hygyrchedd a chymhelliant. Mae agosatrwydd Casnewydd at Gaerdydd yn cymhlethu pethau ymhellach, gyda chyfleoedd yn aml yn mynd heibio’r ddinas o blaid prifddinas Cymru.

Mae cenedlaethau o deuluoedd Casnewydd mewn perygl o gael eu hallgau o adfywio os na chaiff addysg a sgiliau eu rhoi yn y canol. Dengys tystiolaeth fod sgiliau yn agor drysau i waith a hefyd yn cryfhau iechyd, cydnerthedd, hunan-dyb a hyder. Mae’r nodweddion hyn yn eu tro yn creu sylfaen ar gyfer parhau i ddysgu a symudedd cymdeithasol.

Diwallu anghenion lleol

Mae ffocws prosiect Lle o fewn Lle ar Stad Ringland yn nwyrain Casnewydd – un o gymunedau mwyaf amddifadus y ddinas. Mae pobl yn byw ar y stad yn profi diweithdra uchel, lefelau uwch o droseddu a chymwysterau ffurfiol cyfyngedig. Eto mae’r ardal hefyd ar drothwy adfywiad sylweddol, gyda £24 miliwn yn cael ei fuddsoddi, dan arweiniad Cartrefi Dinas Casnewydd.

Mae rhan o’r buddsoddiad hwn yn cynnwys canolfan iechyd a llesiant a hyb cymunedol newydd ar y stad. Bydd sefydlu cysylltiadau gyda’r datblygiadau newydd hyn yn galluogi’r tîm i ysgogi cefnogaeth leol a chynyddu’r nifer sy’n manteisio ar yr hyn a gynigir.

Drwy helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad mewn dysgu, a drwy godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth, mae potensial go iawn i wella sgiliau, hyder a chanlyniadau yn lleol. Mae’r uchelgeisiau hyn yn hollol gydnaws gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n anelu i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y genedl.

Meithrin partneriaethau

Mae cydweithio yn greiddiol i’r prosiect. Mae rhanddeiliaid lleol yn gweithio gyda’i gilydd i gryfhau llwybrau atgyfeirio, dynodi bylchau mewn darpariaeth a chreu llwybrau clir i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Bydd mapio gwasanaethau a rhannu gwybodaeth yn hanfodol i ddeall lle gall datrysiadau VocTech wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Drwy gronni arbenigedd ac adnoddau bydd partneriaid yn sicrhau fod y rhaglen yn ymateb i anghenion lleol. Gyda chydlynu gweithredu, gellir dileu rhwystrau a gwneud llwybrau’n rhwyddach i’w llywio.

Cysylltu dysgu gyda chyflogaeth

Mae gweithlu medrus a hyderus o fudd i gyflogwyr a hefyd i unigolion. I sicrhau aliniad, bydd y tîm yn ymgysylltu gyda busnesau i ddeall eu hanghenion gweithlu a hefyd ymgynghori gyda darpar ddysgwyr i ymchwilio eu dymuniadau. Bydd y safbwynt deuol hwn yn helpu i lunio cyfleoedd sy’n berthnasol, realistig a chynaliadwy.

Mae arfer da eisoes yn bodoli yn sector gwirfoddol Casnewydd, gan roi llwybrau gwerthfawr i gyflogaeth. Ymhellach,  mae buddsoddiad yn sector technoleg cynyddol De Cymru yn rhoi cyfleoedd i hybu sgiliau digidol ymysg preswylwyr lleol. Drwy gronni adnoddau ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio, gall y prosiect gynyddu ei effaith i’r eithaf.

Cynnwys yn hytrach na gosod

Mae cam ymchwiliadol y rhaglen wedi cynnwys dialog agos gyda phartneriaid lleol. Mae’r wybodaeth a gafwyd ganddynt wedi amlygu gwersi o gynlluniau’r gorffennol, gan ddangos beth a lwyddodd a beth na lwyddodd. Thema gyffredin y sylwyd arni yw petrusder ymysg preswylwyr am ymwneud gydag offer digidol, yn deillio o amrywiaeth o bryderon. Fe wnaeth rhanddeiliaid hefyd danlinellu pwysigrwydd datblygu profiad dysgu diddorol a rhyngweithiol. Mae llawer o ddysgwyr yn ymddangos yn ansicr am eu cyfeiriad yn y dyfodol a dangos lefelau ymgysylltu, felly mae’n rhaid cynllunio unrhyw ddull a gaiff ei gynnig gan ystyried hynny er mwyn annog y galw.

Mae arolygon a thrafodaethau hefyd yn dynodi pa ddyfeisiau sydd gan breswylwyr a sut maent yn eu defnyddio. Mae hyn yn sicrhau fod unrhyw ddull VocTech yn dechnegol gymwys a hefyd yn cyflwyno cynnwys mewn ffyrdd sy’n taro tant gyda bywyd bob dydd. Drwy feithrin gwybodaeth a chysylltiadau lleol, mae’r prosiect yn anelu i greu rhywbeth cynaliadwy yr ymddiriedir ynddo.

Creu glasbrint ar gyfer llwyddiant

Drwy arolygon a chyfweliadau, bydd y prosiect yn dynodi dau ddiwydiant blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt yn ystod y cyfnod ymchwil. Drwy ddadansoddi gofynion cymwysterau a sgiliau y sectorau hyn, a’u cymharu gyda darpariaeth leol, bydd y prosiect yn dangos bylchau a chyfleoedd.

Bydd cyswllt â’r gymuned yn hollbwysig – ymwneud yn uniongyrchol gyda’r unigolion a fedrai gael y budd mwyaf, gwrando ar eu dymuniadau a chyd-ddylunio datrysiadau sy’n gweithio iddynt. Y canlyniad fydd fframwaith o argymhellion clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae gan y glasbrint yma y potensial i lunio newid yng Nghymru a hefyd i fod yn esiampl ar gyfer cynlluniau tebyg ledled Cymru a thu hwnt. Mae Addysg Oedolion Cymru, gyda’i gyrraedd cenedlaethol a phartneriaethau sefydlog, mewn sefyllfa dda i rannu esiamplau llwyddiannus a llwyfannau digidol ar draws y wlad. Pan fydd datrysiad wedi ei geisio a’i brofi a chyrraedd diwedd y cyfnod peilot, mae Addysg Oedolion Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu cysylltu gyda rhanddeiliaid ar bob lefel a chyflwyno canfyddiadau y gobeithiwn fydd yn cefnogi ymestyn y rhaglen yn genedlaethol.

22 Mehefin 2026

Addysg oedolion yng Nghymru: Arolwg Cyfranogiad Aelodau mewn Dysgu 2025

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion. Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?

Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.

Darllen mwy

27 Ebrill 2026

Wythnos Addysg Oedolion

Mae Wythnos Addysgwyr Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n ysbrydoli oedolion i gymryd cam yn ôl i ddysgu er mwyn gwella eu hyder a’u lles, newid gyrfaoedd a symud ymlaen yn y gwaith, darganfod hobïau newydd a chysylltu â phobl eraill neu i geisio cyngor ac arweiniad ar y llwybrau presennol sydd ar gael iddynt.

Darllen mwy

23 Mawrth 2026

Gwobr am gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes i AS sy’n ymddeol

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

18 Mawrth 2026

Cyfnod heriol? Amser am gwricwlwm heriol.

Mae addysg ôl-16 yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid.

Darllen mwy

14 Ionawr 2026

Partneriaethau Dysgu Oedolion yng Nghymru

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg i oedolion a theuluoedd, a gyflwynir mewn lleoliadau yn y gymuned i ddiwallu anghenion lleol. Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach.

Darllen mwy

13 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Mae enwebiadau wedi agor gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion a phrosiectau cymunedol yng Nghymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni rhagorol i’w gwella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes.

Darllen mwy