Mae addysg ôl-16 yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid.

Mae  crynodeb Medr o’i flaenoriaethau strategol yn siarad am yr angen i gynyddu cyfraddau cyfranogiad oedolion i’r eithaf tra’n cydbwyso buddion cymdeithasol ac economaidd y ddarpariaeth honno.

Yn ganolog i’r consyrn hwnnw mae pam nad yw oedolion – yn arbennig y rhai gyda’r lefel isaf o gymwysterau ffurfiol – yn cymryd rhan (neu’n bwriadu cymryd rhan) mewn mwy o ddysgu.

Am bron ddeng mlynedd ar hugain mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi arolygu dysgwyr am eu bwriadau a’r rhwystrau a wynebant i gael mynediad i ddysgu. Un canfyddiad cyson yw fod dysgwyr sydd eisoes yn cymryd rhan mewn dysgu yn fwy tebygol o gymryd rhan yn y dyfodol.

Ar gyfer rhai nad ydynt yn ddysgwyr, mae hyn yn golygu cyfarch rhwystrau ymarferol tebyg i gost dysgu, argaeledd gofal plant neu drafnidiaeth gyhoeddus. I eraill gall y rhwystrau fod yn ymwneud â chymhelliant (tebyg i beidio gweld gwerth neu berthnasedd dysgu) neu yn emosiynol yn gysylltiedig â phroblemau o or-bryder, hunan-dyb a hyder.

Cafodd materion o’r fath eu codi yn adroddiad thematig Estyn ar ddysgu oedolion yn y gymuned, gyda’i ffocws ar yr heriau cyfoes sy’n wynebu dysgu oedolion yn y gymuned a sgiliau hanfodol i oedolion. Gan fanylu ar y rhwystrau i ymgysylltu, cydnabu Estyn rôl ganolog hyder mewn ailgysylltu oedolion mewn dysgu, ynghyd â phroblemau mynediad digidol, cyfyngiadau ariannol, iechyd meddwl, anableddau dysgu a rhwystrau iaith. Mae’r adroddiad hefyd yn dweud y gallai anhawster wrth ddefnyddio gwefannau a gwybodaeth anhygyrch am gyrsiau lesteirio ‘ail gyfleoedd’ mewn addysg.

Unwaith y maent yn cymryd rhan mewn dysgu, mae oedolion yn wynebu heriau pellach o ran y ffordd y caiff darpariaeth ei threfnu a’i chyflenwi. Mae Estyn yn sôn am agweddau tebyg i fod ag addysgeg briodol ar gyfer oedolion sy’n dychwelyd i addysg, yn cynnwys pwysigrwydd galluogi’r oedolion i asesu eu hunain a sicrhau cynnydd. Mae llwybrau clir i ddysgwyr yn cynorthwyo ymgysylltu a dilyniant. Mae Estyn hefyd yn cydnabod fod tiwtoriaid angen cefnogaeth wrth weithio gydag oedolion anodd eu cyrraedd.

Yn olaf, mae ffocws yr adroddiad ar ddarpariaeth ddwyieithog a Chymraeg. Mae’n dweud fod darpariaeth Gymraeg yn gyfyngedig, a bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn dewis Saesneg ar gyfer llythrennedd ond yn dangos mwy o ddiddordeb mewn Cymraeg ar gyfer rhifedd. Mae darpariaeth Gymraeg lwyddiannus yn dibynnu ar gydweithio gyda mudiadau lleol ac mae’n aml mwy o alw amdano ar gyfer dysgwyr hŷn a rhaglenni dysgu fel teulu.

Sut y gall y Cwricwlwm Dinasyddion fynd i’r afael â’r heriau hyn

Cafodd dull y Cwricwlwm Dinasyddion ei ddatblygu gyntaf yn 2009 a’i beilota’n helaeth yn Lloegr rhwng 2015-18. O 2019, arweiniodd  gwaith rhyngwladol at y Fframwaith Sgiliau Dysgu ar gyfer Ewrop a ddatblygwyd gan ymarferwyr mewn chwe gwlad.

Cafodd y dull ei beilota yng Nghymru yn 2023/24 gyda dros 400 o ddysgwyr. Roedd ganddo ffocws ar chwe thema: dinasyddiaeth fyd-eang, ysgolion bro, iechyd a llesiant, addysgeg gyfranogol yn ESOL, dysgu seiliedig le ar gyfer preswylwyr cymdeithasau tai ac oedolion hŷn economaidd anweithgar.

Ymgysylltu â dysgwyr

Mae dull y Cwricwlwm Dinasyddion yn dechrau drwy ofyn i ddysgwyr beth maent eisiau ei ddysgu a hyd yn oed beth maent eisiau galw’r cwrs. Er enghraifft, cafodd cwrs llythrennedd ariannol ei alw yn ‘Mae Arian yn Cyfri’. Tynnodd y cynlluniau peilot sylw at bum pwynt allweddol:

  • Yr angen i ddechrau o ble mae’r dysgwr ac adeiladu ar y galluoedd sydd ganddynt eisoes
  • Dylunio rhaglenni dysgu o amgylch dymuniadau oedolion yn hytrach na’u ‘paru’ gyda’r cyrsiau sy’n bodoli eisoes
  • Mynd â’r dysgu at y dysgwr drwy drefnu digwyddiadau ymgysylltu a chyrsiau mewn safleoedd mae oedolion yn gysurus ynddynt (tebyg i ganolfannau cymunedol neu’r ysgol gynradd yr aiff eu plant iddi)
  • Mae angen dull sefydliad cyfan ar gyfer ymgysylltu lle mae uwch arweinwyr, rheolwyr cwricwlwm a thiwtoriaid yn deall y Cwricwlwm Dinasyddion ac yn buddsoddi ynddo.
  • Pwysigrwydd gweithio partneriaeth i alluogi dyrchafiad, atgyfeirio, cefnogaeth barhaus ar gyfer oedolion a chyfleoedd dilyniant.

Darpariaeth a Chynnydd

Ar draws pob cynllun peilot Cwricwlwm Dinasyddion yng Nghymru, roedd tiwtoriaid yn gyson yn personoli eu dulliau addysgeg, gan addasu arddulliau cyflwyno, deunyddiau a chynnwys sesiynau yn seiliedig ar adborth ac anghenion dysgwyr. Roedd dylunio ar y cyd yn ganolog, gyda thiwtoriaid yn dechrau sesiynau unigol drwy ofyn beth oedd cyfranogwyr eisiau ei ddysgu y diwrnod hwnnw.

Casglwyd data ar sawl pwynt (dechrau, canol, diwedd) yn cynnwys gwybodaeth rheoli ac arolygon. Roedd rhai cynlluniau peilot yn defnyddio holiaduron llinell sylfaen a graddfeydd llesiant. Cymerodd dysgwyr ran mewn hunanasesu drwy’r arolygon, dyddlyfrau dysgu a datganiadau ‘gallaf i’.

Addysgu a Dysgu Proffesiynol

Un o ganfyddiadau allweddol y cynlluniau peilot yng Nghymru oedd yr angen i gefnogi staff i’w gyflwyno’n effeithiol. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘staff’ yn cyfeirio at diwtoriaid, rheolwyr ac uwch arweinwyr. Roedd ffocws un o’r cynlluniau peilot dan arweiniad Oasis, Caerdydd a Prifysgol De Cymru ar ddatblygiad proffesiynol mewn ‘addysgeg gyfranogol.

Un agwedd allweddol o addysgeg gyfranogol yw dylunio’r dysgu o amgylch dyheadau unigol ac anghenion dysgwyr. Fel hyn caiff ei bersonoli i raddau helaeth, hyd yn oed mewn grwpiau mawr.

Fe wnaeth Oasis, Caerdydd hefyd danlinellu mater ‘perthnasedd’:

Mae’r Cwricwlwm Dinasyddion yn cynnig dull amgen sy’n ymgysylltu dysgwyr yn yr iaith maent ei hangen ar unwaith. Mae hyn yn deillio o iaith yn ymwneud â thai, cyllid a mynediad i wasanaethau gofal iechyd a gallai gynnwys cymorth cyflogaeth. Mae dysgwyr yn teimlo eu bod yn rhan o’r trafodaethau hyn gan fod ganddynt ddefnydd ymarferol ar gyfer yr iaith maent yn ei dysgu.

Darpariaeth ddwyieithog a Chymraeg

Yn ystod y cynlluniau peilot cafodd anghenion Cymraeg a dwyieithog eu trin drwy bartneriaeth gyda mudiadau lleol. Cafodd darpariaeth dysgu fel teulu ei chyflwyno yn y Gymraeg, a roedd yr aliniad gyda’r Cwricwlwm i Gymru yn ffocws. Fodd bynnag, nododd y gwerthusiad hefyd fod angen datblygu pellach i integreiddio darpariaeth ddwyieithog yn llawn ar draws pob thema.

Oherwydd bod darpariaeth yn cael ei chynllunio ar y cyd, gyda chyfarfodydd rhanddeiliaid yn dynodi anghenion a dewisiadau, cafodd anghenion Cymraeg eu hystyried mewn modd systematig. Cafodd peth asesu ei gynnal yn Gymraeg, yn arbennig mewn dysgu fel teulu a darpariaeth ysgolion bro.

Casgliad

Dangosodd y cynlluniau peilot Cwricwlwm Dinasyddion yng Nghymru fod ymgysylltu yn dyfnhau a hyder yn tyfu pan fod dysgu yn dechrau gyda bywydau go iawn oedolion, eu dymuniadau a’u galluoedd presennol.

Drwy ddefnyddio cyd-ddylunio, addysgeg wedi ei phersonoli a phartneriaethau cryf, dangosodd darparwyr y gellir gostwng rhwystrau i gyfranogiad ac y gellir rhoi cymorth ystyrlon i ddilyniant. Mae’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o ddarpariaeth Gymraeg, ESOL cyfranogol, iechyd a llesiant a dysgu yn y gymuned yn cyfnerthu’r potensial am fodel cynhwysol a gwirioneddol ymatebol o addysg oedolion.

Wrth i Gymru barhau i drawsnewid ei thirlun ôl-16, mae’r Cwricwlwm Dinasyddion a’r fframwaith sy’n datblygu ar gyfer Sgiliau Bywyd Cymru yn cynnig ffordd gydlynus a grymusol i sicrhau fod gan bob oedolyn fynediad i ddysgu sy’n berthnasol, yn cymell a gyda’i wreiddiau yn eu bywydau bob dydd.

Y Camau Nesaf

Dros y misoedd nesaf, bydd y ffocws yn symud tuag at baratoi darparwyr ar draws Cymru i gymryd rhan yn fframwaith Sgiliau Bywyd Cymru.

O ddechrau i ganol 2026, bydd dau ddarparydd yn peilota’r fframwaith ac ICAT o fewn eu darpariaeth addysg oedolion bresennol. Bydd y cyfnod hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar ba mor effeithiol mae’r dulliau yn gweithredu mewn lleoliadau go iawn a lle y gellir fod angen mireinio cyn gweithredu ehangach.

Tuag at ddiwedd 2026, caiff yr hyn a ddysgir o’r gwaith hwn – yn cynnwys adborth, astudiaethau achos a thystiolaeth gweithredu – ei rannu’n eang gyda’r sector addysg oedolion a rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru. Bydd y lledaenu hwn yn helpu i lywio penderfyniadau am brif ffrydio model Sgiliau Bywyd Cymru ar draws y tirlun ôl-16.

27 Ebrill 2026

Wythnos Addysg Oedolion

Mae Wythnos Addysgwyr Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n ysbrydoli oedolion i gymryd cam yn ôl i ddysgu er mwyn gwella eu hyder a’u lles, newid gyrfaoedd a symud ymlaen yn y gwaith, darganfod hobïau newydd a chysylltu â phobl eraill neu i geisio cyngor ac arweiniad ar y llwybrau presennol sydd ar gael iddynt.

Darllen mwy

23 Mawrth 2026

Gwobr am gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes i AS sy’n ymddeol

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

18 Mawrth 2026

Cyfnod heriol? Amser am gwricwlwm heriol.

Mae addysg ôl-16 yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid.

Darllen mwy

14 Ionawr 2026

ESOL Fforwm

Mae ein gwaith yn cynnwys adeiladu’r dystiolaeth o botensial Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) i gael effeithiau cadarnhaol ar iechyd, cyflogaeth ac addysg pobl a’u cyfranogiad mewn cymunedau.

Darllen mwy

14 Ionawr 2026

Partneriaethau Dysgu Oedolion yng Nghymru

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg i oedolion a theuluoedd, a gyflwynir mewn lleoliadau yn y gymuned i ddiwallu anghenion lleol. Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach.

Darllen mwy

13 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Mae enwebiadau wedi agor gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion a phrosiectau cymunedol yng Nghymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni rhagorol i’w gwella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes.

Darllen mwy