Ledled Cymru mae miloedd o bobl ifanc yn cydbwyso eu haddysg gyda chyfrifoldeb enfawr y tu allan i’r coleg: gofalu am riant, brawd neu chwaer, taid neu nain neu rywun arall y maent yn ei garu. Gall hyn gael effaith sylweddol ar eu gallu i ymgysylltu a llwyddo mewn Addysg Bellach.

I helpu goresgyn hyn, mae pecyn cymorth newydd Dysgu a Gwaith yn anelu rhoi cyngor a syniadau ymarferol a gyda ffocws ar gyfer colegau Addysg Bellach yng Nghymru i wella eu cymorth i fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Ond nid yw hyn yr un peth â phecynnau cymorth eraill. Ein nod oedd rhoi llais oedolion ifanc sy’n gofalu wrth ganol yr adnodd hwn. Buom yn gweithio gyda 36 o oedolion ifanc sy’n gofalu ledled Cymru a rannodd eu profiadau, sylwadau a gwybodaeth ar gymorth effeithlon mewn Addysg Bellach.

Fe wnaethant ddweud beth sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w hamser yn y coleg:

  • staff sy’n deall eu sefyllfa
  • cymorth hyblyg sy’n addasu i’w rôl gofalu
  • cyfathrebu clir
  • ffyrdd cynnil i roi gwybod eu bod yn ofalwyr
  • a diwylliant sy’n eu gweld fel unigolion, ac nid problemau i gael eu datrys

Yr hyn y dywedodd oedolion ifanc sy’n gofalu wrthym sydd bwysicaf iddynt

1. Staff sy’n “deall”

Dro ar ôl tro, dywedodd pobl ifanc wrthym mai ymwybyddiaeth staff yw sylfaen cymorth da. Mae pob rhan o’r pecyn cymorth yn tanlinellu fod hyfforddiant ac atgoffa staff yn rheolaidd am bwy sy’n oedolion ifanc sy’n gofalu ac effaith gofalu ar addysg  yn allweddol.

2. Dull empathetig, sy’n ystyriol o drawma

Siaradodd oedolion ifanc sy’n gofalu am y gwahaniaeth y mae’n ei wneud pan fo staff yn gofyn cwestiynau cyn gwneud tybiaethau. Maent eisiau cael eu deall, nid trueni; hyblygrwydd, nid triniaeth arbennig.

3. Cyfathrebu clir a chyson

Dywedodd llawer o oedolion ifanc sy’n gofalu wrthym na wyddent pa gymorth oedd ar gael – neu mai dim ond drwy ddamwain y daethant i wybod. Fe wnaethant awgrymu llythyrau, negeseuon testun, posteri, sianeli Teams a thaflenni ar gyfer myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth o’r help sydd ar gael iddynt.

4. Cymorth hyblyg, wedi ei bersonoli

O absenoldebau awdurdodedig ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg i ymestyn dyddiadau cau, tanlinellodd pobl ifanc fod yn rhaid i gymorth adlewyrchu eu hamgylchiadau unigol. Fel y dywedodd un oedolyn ifanc sy’n gofalu: “Mae pob sefyllfa yn wahanol … mae mor ddefnyddiol dod i wybod gan bob unigolyn beth yw’r problemau.”

5. Ffyrdd cynnil i roi gwybod eu bod yn ofalwyr

Mae pobl ifanc eisiau medru rhannu eu rôl gofalu heb orfod esbonio hynny dro ar ôl tro neu’n gyhoeddus. Daeth syniadau fel cardiau adnabod digidol, laniardau lliw neu symbol syml ar gerdyn myfyriwr yn uniongyrchol ganddyn nhw.

Rhoi gwybodaeth ar waith: Beth mae’r pecyn cymorth yn ei gynnwys

Oherwydd fod oedolion ifanc sy’n ofalwyr wedi llunio’r cynnwys, mae’r pecyn cymorth yn ymarferol, wedi ei seilio ac yn barod ei ddefnyddio. Mae’n cynnwys:

  • Templedi ar gyfer polisïau, cynlluniau cymorth a hyfforddiant staff
  • Astudiaethau achos gan golegau ledled Cymru
  • Canllawiau ar bontio, adnabod, llesiant, cymorth ariannol a chynnydd
  • Dyfyniadau go iawn gan oedolion ifanc sy’n gofalu sy’n dod â’u profiadau yn fyw

Mae pob adran yn adlewyrchu rhywbeth y dywedodd pobl ifanc wrthym eu bod angen. Fe wnaeth eu cyfraniadau lunio’r strwythur, y blaenoriaethau a pha elfennau o ymarfer effeithlon yr ydym yn rhoi sylw iddynt. Nid pecyn cymorth a ysgrifennwyd am oedolion ifanc sy’n gofalu yw hyn: mae’n un a gafodd ei ysgrifennu gyda nhw.

Oedolion ifanc sy’n ofalwyr mewn addysg bellach: Pecyn cymorth ar gyfer colegau addysg bellach yng Nghymru.

Pecyn cymorth ymarferol ar gyfer colegau addysg bellach yng Nghymru sy’n rhoi sylw i ddulliau effeithiol o gefnogi oedolion ifanc sy’n gofalu mewn Addysg Bellach.

Mynd i adnodd

22 Mehefin 2026

Addysg oedolion yng Nghymru: Arolwg Cyfranogiad Aelodau mewn Dysgu 2025

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion. Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?

Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.

Darllen mwy

27 Ebrill 2026

Wythnos Addysg Oedolion

Mae Wythnos Addysgwyr Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n ysbrydoli oedolion i gymryd cam yn ôl i ddysgu er mwyn gwella eu hyder a’u lles, newid gyrfaoedd a symud ymlaen yn y gwaith, darganfod hobïau newydd a chysylltu â phobl eraill neu i geisio cyngor ac arweiniad ar y llwybrau presennol sydd ar gael iddynt.

Darllen mwy

23 Mawrth 2026

Gwobr am gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes i AS sy’n ymddeol

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

18 Mawrth 2026

Cyfnod heriol? Amser am gwricwlwm heriol.

Mae addysg ôl-16 yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid.

Darllen mwy

14 Ionawr 2026

Partneriaethau Dysgu Oedolion yng Nghymru

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg i oedolion a theuluoedd, a gyflwynir mewn lleoliadau yn y gymuned i ddiwallu anghenion lleol. Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach.

Darllen mwy

13 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Mae enwebiadau wedi agor gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion a phrosiectau cymunedol yng Nghymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni rhagorol i’w gwella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes.

Darllen mwy