Neidio i’r prif gynnwys

Newyddion ac erthyglau

14 Tachwedd 2024

Sicrhau gweithlu parod i’r dyfodol mewn peirianneg a gweithgynhyrchu ar gyfer Cymru

Mae gan dreftadaeth ddiwydiannol Cymru hanes hir o ragoriaeth mewn diwydiannau peirianneg a gweithgynhyrchu megis ynni, gweithgynhyrchu gwerth uchel a ffermio sy’n parhau yn hanfodol i’n heconomi cenedlaethol. Mae’n hanfodol deall gofynion unigryw peirianneg a hefyd weithgynhyrchu yng Nghymru ar gyfer creu gweithlu parod i’r dyfodol.

Darllen mwy

22 Hydref 2024

Tegwch mewn Addysg Drydyddol yng Nghymru: persbectif dysgu oedolion

Gallai cyflwyno’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) newid dulliau o hybu tegwch mewn addysg drydyddol yng Nghymru yn sylweddol. Mae nifer o resymau dros fod yn weddol optimistaidd ynglŷn â’r corff newydd a sut y gallai drawsnewid y dirwedd ôl-orfodol.

Darllen mwy

10 Medi 2024

Addysg oedolion: Creu llwybrau at degwch economaidd

Rydym i gyd yn gwybod bod sgiliau a lefelau addysg uwch yn sbardunau allweddol o lwyddiant economaidd, i unigolion ac ar draws ardaloedd daearyddol. Os ydym am i Gymru gael economi lewyrchus lle mae manteision y ffyniant hwnnw’n cael eu dosbarthu’n gyfartal, yna mae addysg a sgiliau yn mynd i fod yn ffocws craidd.

Darllen mwy

6 Medi 2024

Cyfranogiad mewn dysgu yng Nghymru

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyhead i’w groesawu i wneud Cymru’n genedl o ail gyfleoedd; gyda thirwedd polisi sy’n cefnogi dysgu gydol oes ac yn arbennig oedolion sy’n dychwelyd i addysg. Fodd bynnag, mae trosi uchelgais mor ganmoladwy i weithredu ymarferol yn gamp. Rydyn ni i gyd wedi arfer â hawl i addysg i’n hoedolaeth gynnar, ond mae’r un hawl yn llai amlwg wrth i ni heneiddio.

Darllen mwy

3 Mehefin 2024

Cydweithredu seiliedig ar le: diweddariad o Gasnewydd

Gan adeiladu ar bapurau gwyrdd a gwyn, VocTech Challenge, mae Ufi VocTech Trust (Ufi) a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi datblygu rhaglen o bartneriaethau seiliedig ar le.

Darllen mwy

14 Mai 2024

146,000 o resymau dros gael cymorth cyflogaeth yn iawn yng Nghymru

Dengys ymchwil newydd ar y bron filiwn o bobl ifanc 16-24 yn y Deyrnas Unedig nad ydynt naill ai mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) fod bron saith mewn deg (69%) yng Nghymru yn economaidd anweithgar – gan olygu nad ydynt yn edrych am waith nac ar gael ar gyfer gwaith ar hyn o bryd.

Darllen mwy

3 Ionawr 2024

Mae’n amser i bawb ohonom gymryd rhan mewn VET

Am lawer o hanes fodern cafodd addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) eu hystyried yn llwyr yn gyfrifoldeb cyflogwyr. Mewn gwirionedd, mae’n ffenomen eithaf diweddar i lywodraethau ymwneud â VET o gwbl.

Darllen mwy

20 Medi 2023

John Gates: O’r talcen glo i frodwaith

Maent yn dweud fod glowyr bellach yn frîd o ddynion sy’n prysur ddiflannu wrth i atgofion am fywyd y pwll bylu gyda phob blwyddyn a aiff heibio. Y flwyddyn nesaf bydd yn ddeugain mlynedd ers diwedd y Streic Glowyr fawr ddiwethaf (1984-85) oedd yn adeg hollbwysig yn hanes Prydain ac a roddodd y farwol i gynifer o gymunedau gwledig yn Ne Cymru.

Darllen mwy

18 Medi 2023

Addysg Oedolion Cymru Cwricwlwm Dinasyddion: Addysg Heddwch mewn Addysg Oedolion

Mewn byd sy’n aml yn cael ei ddifetha gan wrthdaro ac anghytgord, ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd addysg heddwch. Mae pa mor bwysig yw hyn yn ymestyn i fyd yr oedolyn. Mae’r angen am addysg heddwch mewn addysg oedolion wedi dod yn fwyfwy amlwg wrth i gymdeithasau fynd i’r afael â heriau byd-eang, cymhleth. Mae’r blog hwn yn ymchwilio i’r rhesymau pam mae addysg heddwch yn anghenraid i oedolion sy’n dysgu, a sut y gall feithrin newid cadarnhaol ar lefelau personol, rhyngbersonol a chymdeithasol.

Darllen mwy

18 Medi 2023

Addysg Iaith a Chroeso Cynnes Cymreig

Pa un yw’r ffordd orau i addysgu iaith i newydd-ddyfodiaid yng Nghymru? A sut yw’r ffordd orau i gefnogi athrawon i weithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a all fod yn dysgu iaith tra’u bod yn dioddef o drawma ac yn gorfod wynebu’r ‘amgylchedd gwrthwynebus’[1] a gafodd ei greu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig? Dyma’r cwestiynau yr oeddem eisiau eu hymchwilio gyda’n prosiect Cwricwlwm Dinasyddion, partneriaeth rhwng Oasis, Prifysgol De Cymru ac Addysg Oedolion Cymru.

Darllen mwy