Deanna Hughes a Carl Hill, Cymru Iach ar Waith
Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.
Wrth i ni ddathlu Wythnos Addysg Oedolion 2026 (21 i 27 Medi), mae’n gyfle i gydnabod gwerth dysgu gydol oes a’r effaith gadarnhaol y gall ei gael ar iechyd, llesiant a gwydnwch.
Yn aml, caiff dysgu gydol oes ei gysylltu gyda chymwysterau a chynnydd mewn gyrfa, ond mae ei fanteision yn ymestyn lawer ymhellach. Gall dysgu gynyddu hyder, rhoi ymdeimlad o gyflawni a helpu pobl i deimlo mwy o gysylltiad gydag eraill. Gall hefyd gefnogi lles meddwl drwy greu cyfleoedd ar gyfer twf, diben a hunan-ddatblygiad.
Gall dysgu fod yn neilltuol o werthfawr mewn cyfnodau o newid. P’un ai’n addasu i swydd newydd, defnyddio technoleg newydd neu ymdopi â newidiadau mewn amgylchiadau bywyd, gall datblygu gwybodaeth a sgiliau newydd helpu pobl i deimlo’n fwy galluog a pharod. Gall hyd yn oed gam bach, tebyg i fynychu gweminar, cymryd rhan mewn gweithdy neu ddysgu sgil newydd gan gydweithiwr, feithrin hyder ac annog datblygu pellach.
Mae gan y gweithle rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi dysgu gydol oes. I lawer o oedolion, gwaith yw lle maent yn treulio cyfran sylweddol o’u hamser, eto gall rhwystrau fel amserlenni prysur, patrymau shifft, cyfrifoldebau gofalu neu ddiffyg hyder wneud cyfleoedd dysgu yn anodd cael mynediad iddynt.
Drwy ymwreiddio dysgu mewn bywyd gwaith bob dydd, gall cyflogwyr helpu i ddileu’r rhwystrau hyn a chreu amgylcheddau lle caiff pobl eu cefnogi i dyfu a datblygu. Gall hyn fod o fudd i gyflogeion a sefydliadau fel ei gilydd. Gall hyn ennyn diddordeb cyflogeion, gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n well a bod yn hwb i’w hyder, tra gall sefydliadau gryfhau sgiliau, gwella cadw staff ac adeiladu gweithlu mwy hyblyg.
Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud
Nid yw cyflogwyr angen cyllidebau mawr na rhaglenni cymhleth i gefnogi dysgu. Gall camau gweithredu bach, ymarferol wneud gwahaniaeth ystyrlon:
- Holi cyflogeion am eu diddordebau dysgu a’u hanghenion datblygu
- Cynnwys nodau dysgu mewn cyfarfodydd a gwerthusiadau un-i-un rheolaidd
- Cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, tebyg i fentora, dysgu gan gymheiriaid, cyfleoedd blasu hyfforddiant a gweminarau
- Rhoi hyblygrwydd ac amser wedi’i ddiogelu ar gyfer dysgu lle’n bosibl
- Sicrhau fod cyfleoedd yn hygyrch i’r holl gyflogeion, yn cynnwys gweithwyr shifft, staff rhan-amser a gweithwyr o bell
- Cydnabod a dathlu llwyddiannau dysgu ac annog rhannu gwybodaeth ar draws timau
Mae Cymru Iach sy’n Gweithio yn cydnabod pwysigrwydd dysgu a datblygiad parhaus. Drwy ein ein gweithdai, gweminarau, podlediadau ac adnoddau e-ddysgu rhad ac am ddim, rydym yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i greu gweithleoedd iachach, hapusach a mwy cefnogol lle gall pobl ffynnu.
Yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion eleni ystyriwch yr hyn y gallai dysgu ei olygu i chi, eich cydweithwyr neu eich sefydliad. Nid yw’n rhaid i ddysgu arwain at gymhwyster i wneud gwahaniaeth. Weithiau gall un sgwrs, sgil newydd neu safbwynt ffres fod y cam cyntaf tuag at fwy o hyder, gwella llesiant a chryfhau gwydnwch.
Drwy werthfawrogi dysgu gydol oes, gallwn helpu i greu gweithluoedd iachach, cefnogi twf personol a galluogi pobl i addasu a llwyddo ar hyd eu bywydau.