Angharad Evans 
Rheolwr Prosiect Sgiliau a Chyflogadwyedd
, Uchelgais Gogledd Cymru

Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n gyfle i gydnabod na fu dysgu gydol oes erioed yn bwysicach i lwyddiant Gogledd Cymru yn y dyfodol.

Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn ymadael â’r ysgol, coleg neu brifysgol. Yn economi heddiw sy’n esblygu drwy’r amser,  mae datblygu sgiliau newydd ar hyd ein bywydau yn hanfodol i helpu pobl adeiladu eu hyder, addasu i newidiadau, sicrhau cynnydd yn eu gyrfaoedd a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Mae hyn yn neilltuol o berthnasol yn y Gogledd, lle mae cyfleoedd economaidd sylweddol yn dod i’r amlwg drwy weithgynhyrchu uwch, ynni glân a thechnoleg ddigidol. Drwy raglenni tebyg i  Fargen Twf Gogledd Cymru, Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam a Phorthladd Rhydd Ynys Môn, mae gan y Gogledd gyfoeth o gyfleoedd ar y gorwel. Wrth i ddiwydiannau newydd dyfu a sectorau presennol yn esblygu, bydd llawer o swyddi’r dyfodol yn golygu fod angen i bobl ddysgu, addasu a datblygu sgiliau newydd yn barhaus drwy gydol eu gyrfaoedd.

Dyna pam fod dysgu gydol oes mor bwysig. I unigolion, gall dysgu agor drysau i yrfaoedd newydd, cefnogi cynnydd i swyddi sgil uwch a rhoi’r hyder i gymryd y cam nesaf. P’un ai yw rhywun yn dychwelyd i’r gwaith, yn ystyried newid gyrfa neu’n edrych am ddyrchafiad, mae dilyn hyfforddiant yn dangos cymhelliant, ymroddiad a pharodrwydd i ddysgu. Ynghyd â chymwysterau technegol, mae cyflogwyr yn rhoi gwerth cynyddol ar sgiliau y medrir eu trosglwyddo tebyg i gyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau, hyblygrwydd ac arweinyddiaeth.

Mae rhaglenni fel Cyfrifon Dysgu Personol yn rhoi mynediad i oedolion i hyfforddiant a gyllidwyd mewn sectorau blaenoriaeth, gan helpu unigolion i ennill cymwysterau cydnabyddedig a datblygu sgiliau y mae galw amdanynt. Mae’r cyfleoedd hyblyg hyn yn neilltuol o werthfawr ar gyfer pobl sy’n cydbwyso dysgu gyda gwaith, cyfrifoldebau gofalu neu ymrwymiadau eraill.

Ar gyfer cyflogwyr, mae buddsoddi mewn datblygu sgiliau yn gyfle i dyfu eich busnes. Yn aml gall sefydliadau sy’n cefnogi dysgu ddenu a chadw talent, croesawu technolegau newydd a gwella cynhyrchiant.
Angharad Evans  Rheolwr Prosiect Sgiliau a Chyflogadwyedd, Uchelgais Gogledd Cymru

Mae Rhaglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ymarferol i fusnesau uwchsgilio ac ailsgilio eu gweithlu, gan helpu cyflogwyr i baratoi ar gyfer cyfleoedd y dyfodol tra’n cryfhau perfformiad cyfredol. Gall darparwyr hyfforddiant lleol hefyd gynnig cefnogaeth i gael mynediad i gyfleoedd hyfforddiant.

Fel mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ein hatgoffa, mae dysgu gydol oes yn cefnogi mwy nag uchelgais addysg gan alluogi unigolion a busnesau i ymateb i ofynion economaidd. Os yw Gogledd Cymru i wireddu’n llawn y cyfleoedd a gyflwynir gan y Fargen Twf, Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r symud i economi carbon isel, mae’n rhaid i ni barhau i hyrwyddo dysgu gydol oes, cefnogi cynnydd a chreu cyfleoedd dysgu hygyrch i bawb.

Ein neges allweddol yw nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Daeth dysgu gydol oes yn allweddol i helpu pobl i aros yn hyblyg, hyderus a pharod ar gyfer cyfleoedd newydd. P’un ai’n gwrs byr i ddatblygu sgiliau newydd, hyfforddiant proffesiynol i gefnogi cynnydd gyrfa neu gymhwyster sy’n agor drysau i ddiwydiant newydd, gall pob cyfle dysgu helpu i lunio ein camau nesaf. Drwy groesawu dysgu gydol oes, gall unigolion gymryd rheolaeth o’u dyfodol, gall cyflogwyr adeiladu gweithluoedd cryfach a gall Gogledd Cymru barhau i dyfu.

22 Medi 2026

Datgloi potensial gyda dysgu gydol oes

Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n gyfle i gydnabod na fu dysgu gydol oes erioed yn bwysicach i lwyddiant Gogledd Cymru yn y dyfodol. Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn ymadael â’r ysgol, coleg neu brifysgol. Yn economi heddiw sy’n esblygu drwy’r amser,  mae datblygu sgiliau newydd ar hyd ein bywydau yn hanfodol i helpu pobl adeiladu eu hyder, addasu i newidiadau, sicrhau cynnydd yn eu gyrfaoedd a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru

Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru

Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?

Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.

Darllen mwy

23 Mawrth 2026

Gwobr am gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes i AS sy’n ymddeol

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

18 Mawrth 2026

Cyfnod heriol? Amser am gwricwlwm heriol.

Mae addysg ôl-16 yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid.

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy