Mae’r cynghorion da hyn yn rhannu gwersi ymarferol ar ddylunio, cyflenwi a gwerthuso rhaglenni gwaith ac iechyd lleol. Cawsant eu cynllunio ar gyfer y rhai sy’n llunio a chyflenwi polisi lleol a rhanbarthol, timau data a gwerthuso ac uwch wneuthurwyr penderfyniadau.
Mae’r cynghorion da yn seiliedig ar adolygiad tystiolaeth o raglenni ac ymyriadau a gyflwynir mewn ardal, awdurdod lleol, awdurdod maerol strategol neu ardal bwrdd gofal integredig yn Lloegr, yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon. Roedd pob un o’r rhaglenni yn cynnwys:
- Elfennau clir o deilwra a hyblygrwydd lleol
- Poblogaeth darged o bobl 16 i oedran pensiwn gwladol
- Ffocws ar ganlyniadau iechyd a hefyd ganlyniadau gwaith
- Gwerthusiad a gwblhawyd rhwng 2017 a Ionawr 2026
Caiff y cynghorion da eu seilio ar gorff cyfyngedig o dystiolaeth ac felly maent yn rhoi sylw i ymarfer addawol yn hytrach na phrofi effaith uniongyrchol.
25 Medi 2026
Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd
Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.
22 Medi 2026
Datgloi potensial gyda dysgu gydol oes
Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n gyfle i gydnabod na fu dysgu gydol oes erioed yn bwysicach i lwyddiant Gogledd Cymru yn y dyfodol. Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn ymadael â’r ysgol, coleg neu brifysgol. Yn economi heddiw sy’n esblygu drwy’r amser, mae datblygu sgiliau newydd ar hyd ein bywydau yn hanfodol i helpu pobl adeiladu eu hyder, addasu i newidiadau, sicrhau cynnydd yn eu gyrfaoedd a manteisio ar gyfleoedd newydd.
11 Awst 2026
Cyflenwi rhaglenni gwaith ac iechyd lleol: Cynghorion Da
Mae’r cynghorion da hyn yn rhannu gwersi ymarferol ar ddylunio, cyflenwi a gwerthuso rhaglenni gwaith ac iechyd lleol. Cawsant eu cynllunio ar gyfer y rhai sy’n llunio a chyflenwi polisi lleol a rhanbarthol, timau data a gwerthuso ac uwch wneuthurwyr penderfyniadau.
24 Gorffennaf 2026
Llywodraeth Cymru: Archwiliad Sgiliau Cymru
Cafodd Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal Archwiliad Sgiliau Cymru i ddynodi’r sgiliau sydd eu hangen yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi a thyfu economi Cymru. Beth yw Archwiliad Sgiliau Cymru? Cynhaliwyd yr archwiliad ffurfiol diwethaf o sgiliau yng Nghymru yn 2012 ac mae’r tirlun […]
13 Ionawr 2026
Rhaglen Tystiolaeth ar y Farchnad Lafur
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi comisiynu’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, i ddarparu adolygiadau tystiolaeth ac adnoddau ymarferol ar faterion allweddol y farchnad lafur i helpu llywio gwneuthurwyr polisi lleol.
26 Tachwedd 2025
Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru
Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
26 Tachwedd 2025
Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.
Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.
6 Tachwedd 2025
Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru
Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
21 Hydref 2025
Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru
Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.