Datblygwyd Fframwaith Hunanasesu Effeithlonrwydd ESOL i gefnogi darparwyr a phartneriaethau i ystyried ansawdd, effeithlonrwydd a pha mor ymatebol yw darpariaeth Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru.
Wedi’i ddatblygu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar ran Medr, cafodd y fframwaith ei gynhyrchu ar y cyd gyda darparwyr ESOL, ymarferwyr, rhanddeiliaid a dysgwyr. Mae’n defnyddio tystiolaeth, ymchwil a gwybodaeth a gasglwyd drwy broses ddatblygu ar y cyd, yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, grwpiau ffocws dysgwyr a threialu.
Mae’r fframwaith yn cydnabod fod darpariaeth ESOL effeithlon yn ymestyn tu hwnt i dim ond addysgu a dysgu. Mae’n ystyried yr ystod ffactorau sy’n cyfrannu at brofiadau a deilliannau cadarnhaol i ddysgwyr, yn cynnwys mynediad a chynhwysiant, ymgysylltu â dysgwyr, cynnydd, gweithio partneriaeth a datblygu gweithle.
Yr hyn mae’r fframwaith yn ei gynnwys
Trefnwyd y fframwaith yn bum parth sy’n adlewyrchu elfennau allweddol darpariaeth ESOL effeithlon:
Mynediad, ymgysylltu a chynhwysiant – cefnogi dysgwyr i gael mynediad i ddarpariaeth a mynd i’r afael â’r rhwystrau i gyfranogiad.
Addysgu, dysgu a chwricwlwm – ffocws ar ansawdd, perthnasedd a pha mor ymatebol yw darpariaeth ESOL.
Deilliannau a chynnydd dysgwyr – cefnogi cyflawniad, cynnydd a deilliannau ehangach dysgwyr.
Systemau, partneriaethau a llwybrau – cryfhau cynllunio, cydweithio a llwybrau dysgwyr ar draws system ESOL
Galluedd gweithlu a darparwyr – cefnogi datblygu gweithlu, dysgu proffesiynol a galluedd sefydliad.
Ynghyd â’r fframwaith, cafodd Datganiad Deilliannau ESOL hefyd ei ddatblygu i osod blaenoriaeth deilliannau darpariaeth ESOL a gyllidir gan ESOL yng Nghymru a rhoi ffocws a gaiff ei rannu ar gyfer hunanwerthuso, gwella ansadd a chynllunio.
Fframwaith Hunanasesu Effeithlonrwydd ESOL
Datblygwyd fframwaith hunanasesu effeithlonrwydd ESOL i gefnogi darparwyr a phartneriaethau i ysytired ansawdd, effeithlonrwydd a pha mor ymatebol yw darpariaeth ESOL.
Datblygwyd Fframwaith Hunanasesu Effeithlonrwydd ESOL i gefnogi darparwyr a phartneriaethau i ystyried ansawdd, effeithlonrwydd a pha mor ymatebol yw darpariaeth Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru. Wedi’i ddatblygu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar ran Medr, cafodd y fframwaith ei gynhyrchu ar y cyd gyda darparwyr ESOL, ymarferwyr, rhanddeiliaid a dysgwyr. Mae’n […]
Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon.
Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.
Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.
Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.
Mae dadansoddiad newydd yn rhybuddio y gallai cynlluniau’r Llywodraeth i gael yr economi i dyfu fethu os nad yw’n gweithredu i wrthdroi gostyngiad mawr yn yr hyfforddiant a gaiff cyflogeion yn y gwaith.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion.
Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.
Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan.
Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.