Kieran Keough, Cyd-gadeirydd Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru a Chyfarwyddwr Ansawdd Coleg Gŵyr Abertawe

Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.

Drwy greu cyfleoedd i ddysgu gan ein gilydd, datblygu ymarfer effeithlon a mynd i’r afael â heriau cyffredin, mae’r Bartneriaeth yn helpu i adeiladu sector addysg oedolion mwy cysylltiedig, ymatebol ac uchelgeisiol ar draws Cymru.

Datblygu Offeryn ar gyfer Ymarfer a Darpariaeth Effeithiol

Un o lwyddiannau diwedda pwysicaf y Bartneriaeth fu datblygu Offeryn y Bartneriaeth Dysgu Cymunedol i Oedolion ar gyfer Ymarfer a Darpariaeth Effeithlon.

Dan arweiniad y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac wedi ei ddatblygu ar y cyd gan bartneriaethau ar draws Cymru, mae’r teclyn yn rhoi fframwaith a strwythurwyd ar gyfer hunanasesu a gwella parhaus. Mae’n cefnogi partneriaethau i werthuso eu heffeithlonrwydd ar draws meysydd allweddol yn cynnwys arweinyddiaeth strategol, ymgysylltu â dysgwyr, gweithio partneriaeth, datblygu gweithlu a chanlyniadau a chynnydd dysgwyr.

Mae’r fframwaith yn galluogi partneriaethau i ddynodi cryfderau, targedu meysydd i’w gwella a rhannu ymarfer effeithlon mewn ffordd gyson ar draws Cymru, tra’n parhau yn ddigon hyblyg i adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac anghenion y gymuned.

Ailgyflwyno Cynhadledd Genedlaethol Addysg Oedolion

Cafodd cydweithio ar draws y sector ei gryfhau ymhellach drwy ailgyflwyno Cynhadledd Flynyddol Addysg Oedolion Cymru yn llwyddiannus. Bu hyn yn bosibl drwy gefnogaeth  buddsoddiad Medr ac arweiniad y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Mae’r gynhadledd yn llwyfan cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr, arweinwyr a gwneuthurwyr polisi i ddod ynghyd i rannu syniadau, ymchwilio materion sy’n dod i’r amlwg a llun dyfodol addysg oedolion. Mae’n cynnig cyfleoedd i glywed yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru a Medr, ymchwilio ymchwil a datblygiadau polisi, dysgu o safbwyntiau rhyngwladol, cymryd rhan mewn gweithdai dan arweiniad ymarferwyr a chryfhau rhwydweithiau proffesiynol ar draws Cymru.

Yn bwysig, mae’r gynhadledd wedi helpu i greu cysylltiadau cryfach rhwng polisi ac ymarfer, gan sicrhau bod anghenion dysgwyr a chymunedau yn parhau wrth ganol datblygiadau yn y sector.

Rhannu Arfer Gorau ar draws Cymru

Yn ganolog i lwyddiant Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru mae diwylliant cryf o gydweithio a rhannu dysgu. Mae partneriaethau yn cyfnewid adnoddau, profiadau a datrysiadau ymarferol yn rheolaidd, gan alluogi addasu a mabwysiadu dulliau gweithredu llwyddiannus mewn gwahanol ranbarthau.

Mae meysydd dysgu a gaiff ei rannu yn cynnwys ymateb i ganfyddiadau arolwg Estyn, cryfhau ymgysylltu â’r gymuned a chynyddu cyfranogiad.

Yn aml, daw’r gwerth mwyaf yn syml drwy ddysgu sut mae partneriaeth arall yn trin her yn wahanol, gan roi syniadau ffres y gellir eu haddasu a’u rhoi ar waith yn lleol.
Kieran Keough, Cyd-gadeirydd Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru a Chyfarwyddwr Ansawdd Coleg Gŵyr Abertawe

Rhannu Ymrwymiad i Addysg Oedolion

Mae nerth Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn yr ymrwymiad a rannwn i hyrwyddo addysg oedolion a gwella cyfleoedd ar draws Cymru. Drwy ddod â darparwyr, cyrff trydydd sector, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid sector cyhoeddus ynghyd, mae’r rhwydwaith yn creu llais cryf ac unedig dros addysg oedolion a gofod cydweithio lle gall sefydliadau rannu arbenigedd, mynd i’r afael â heriau a hybu gwelliant gyda’i gilydd.

Wrth i addysg oedolion barhau i esblygu, mae’r Bartneriaeth yn llwyfan hollbwysig ar gyfer arloesi, partneriaeth a gwelliant parhaus. Drwy rannu gweledigaeth a chydweithio, mae’r rhwydwaith yn helpu i greu sector addysg oedolion mwy cysylltiedig, cynhwysol ac ymatebol sy’n diwallu anghenion dysgwyr a chymunedau yn well.

Cydweithio yw ein nerth: darparu gwell cyfleoedd i ddygwyr a buddion parhaus i gymunedau ledled Cymru.

25 Medi 2026

Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd

Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.

Darllen mwy

22 Medi 2026

Datgloi potensial gyda dysgu gydol oes

Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n gyfle i gydnabod na fu dysgu gydol oes erioed yn bwysicach i lwyddiant Gogledd Cymru yn y dyfodol. Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn ymadael â’r ysgol, coleg neu brifysgol. Yn economi heddiw sy’n esblygu drwy’r amser,  mae datblygu sgiliau newydd ar hyd ein bywydau yn hanfodol i helpu pobl adeiladu eu hyder, addasu i newidiadau, sicrhau cynnydd yn eu gyrfaoedd a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru

Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru

Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?

Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.

Darllen mwy

23 Mawrth 2026

Gwobr am gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes i AS sy’n ymddeol

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

18 Mawrth 2026

Cyfnod heriol? Amser am gwricwlwm heriol.

Mae addysg ôl-16 yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid.

Darllen mwy