Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon.
Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.
Clywsom gan ddysgwyr drwy straeon ein enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! a drwy gynllun peilot y Fforwm Dysgwyr y gwnaethom ei hwyluso ar gyfer Medr ym mis Mehefin a dyna pam ein bod ni yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cefnogi datblygu’r Teclyn Ymgysylltu â Dysgwyr ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned.
Mae addysg oedolion yn fwy na llwybr i gymwysterau. Soniodd dysgwyr am hyder, cysylltiad, cyfeillgarwch, llesiant, sgiliau ymarferol, cyflogadwyedd ac ymdeimlad newydd o ddiben.
Roedd rhai yn dychwelyd ar ôl profiadau negyddol yn yr ysgol, profedigaeth, iechyd meddwl gwael, bod yn ynysig neu newidiadau mawr yn eu bywydau. Roedd eraill eisiau cefnogi eu teuluoedd, gwella eu Cymraeg neu eu Saesneg, sicrhau cynnydd yn y gwaith, gwirfoddoli neu aros mewn cysylltiad â’u cymunedau.
Dysgu gydol oes yw sylfaen system sgliau gryfach a thecach. Mae mynediad i gyfleoedd dysgu yn llunio os gall oedolion symud i waith, cymryd rhan ym mywyd y gymuned, gwella eu hiechyd a’u llesiant, cefnogi dysgu eu plant ac addasu i newid economaidd.
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn iawn i roi sylw i’r straeon hyn, ac mae angen i ni yn awr wneud mwy i sicrhau fod drysau yn agor i bawb a bod llwybrau yn mynd â phobl i ble maent eisiau bod.
Roedd dysgwyr yn glir am yr hyn sy’n gwneud i ddarpariaeth weithio: tiwtoriaid croesawgar, grwpiau bach a chefnogol, safleoedd lleol dibynadwy, cyrsiau fforddiadwy, amserau hyblyg sy’n gweddu bywydau prysur ac, yn bwysig, gyfleoedd dysgu sy’n fwy gweladwy mewn cymunedau ac a gaiff eu hyrwyddo mewn ffyrdd sy’n eu cyrraedd.
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion hefyd yn dangos grym partneriaeth. Daw’r ymgyrch â chyrsiau, sesiynau blasu, dyddiau agored, cyngor a dysgwyr straeon ynghyd ledled Cymru, gyda ffocws clir ar helpu oedolion i gymryd y cam cyntaf hwnnw i ddysgu. Mae’n bwysig fod hynny yn weladwy.
Mae dysgwyr yn bartneriaid wrth gynllunio system dysgu gydol oes sy’n gweithio. Yn yr Wythnos Addysg Oedolion hon dylem ddathlu eu llwyddiannau – a gweithredu ar eu tystiolaeth.
Gwrando ar ddysgwyr yw un o’r dulliau mwyaf ymarferol sydd gennym i adeiladu darpariaeth sy’n gynhwysol, ymatebol ac a all newid bywydau, teuluoedd a chymunedau.