Gan Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith

Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.

Gall dysgu ddigwydd ar sawl ffurf. Mae’r Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu a gynhaliwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn defnyddio diffiniad eang o ddysgu ac mae’n dweud, yn 2025, bod bron i hanner (47%) oedolion Cymru wedi cofnodi eu bod wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o ddysgu yn y tair blynedd ddiwethaf.

Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud y gall pethau deimlo’n eithaf anodd ar y funud i ni i gyd. Mae nifer o heriau ar lefel byd-eang ac yn y Deyrnas Unedig ac mae gan Lywodraeth newydd Cymru hefyd lawer iawn o ymrwymiadau i’w cyflawni.

Yn y cyd-destun hwnnw byddai’n rhwydd rhestru’r heriau sy’n wynebu’r ddarpariaeth addysg oedolion, canolbwyntio ar y nifer o bobl a allai gael budd o ddysgu ond nad ydyn nhw’n ei ddefnyddio, neu’r cyd-destun ariannol anodd y mae’r ddarpariaeth yn gweithredu o’i fewn.

Mae’r heriau hynny yn ffaith, ond yn hytrach rwyf am ganolbwyntio ar newyddion da. Mae addysg oedolion yn gweithio.

Mae’n ymyrraeth polisi sy’n creu effaith ac yn newid bywydau. Yn naturiol, mae’n rhoi cyfle i bobl ddysgu rhywbeth newydd a all arwain at gymhwyster, swydd gyntaf, swydd newydd neu gyfle newydd. Yn ychwanegol mae’n gwella iechyd, llesiant a hyder ac mae’n rhoi rhywbeth i bobl edrych ymlaen ato a chanolbwyntio arno mewn amseroedd anodd.

Mae addysg oedolion hefyd yn creu twf economaidd trwy gefnogi pobl i gael gwaith a’u cadw mewn gwaith. Mae’n cael effaith sy’n cael ei deimlo ymhell tu hwnt i’r unigolyn – gan eu teuluoedd, cyflogwyr a’r cymunedau. Dywed yr arolwg Cyfranogiad bod 96% o bobl Cymru a gymerodd ran mewn dysgu yn y tair blynedd ddiwethaf wedi cofnodi o leiaf un budd – roedd y rhain yn cynnwys cynnydd mewn hyder, symud yn nes at eu nod, bod yn well yn eu swydd bresennol neu wella eu sgiliau, ymhlith eraill.

Yn ystod yr wythnos byddwn yn cydnabod llwyddiannau 11 o ddysgwyr anhygoel, sydd wedi newid eu bywydau trwy addysg yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion. Ni fu eu llwybrau yn rhwydd, prin bod eu teithiau dysgu wedi bod mewn llinell syth ac mae eu dysgu wedi gorfod gweddu i’w bywydau a’u hamgylchiadau.

Maen nhw wedi llwyddo, gyda chefnogaeth tiwtoriaid gwych a mynediad at y ddarpariaeth oedd yn iawn iddyn nhw, ond dim ond cyfran fach iawn ydi’r 11 o fynydd o bositifrwydd a llwyddiant, y mae’r bron i 100 o enwebiadau y gwnaethom eu derbyn yn tystio iddo.

Roedd mwy na 13,000 mewn dysgu cymunedol i oedolion yn 2024/25 a llawer mwy o oedolion yn dysgu trwy addysg bellach, addysg uwch a dysgu yn y gweithle. A oes arnom angen mwy ohonyn nhw? Oes, mae arnom ni angen hynny ond mae hyn yn filoedd o fywydau a newidiwyd a nifer ddirifedi o storïau am ddyfalbarhad ac ymroddiad gan ddysgwyr a staff fel ei gilydd.

Yr eiliad hon, trwy Gymru, mae pobl yn cymryd y cam cyntaf i ganolfan ddysgu gymunedol, yn mynd i’r coleg am y tro cyntaf, yn cychwyn ar gwrs newydd yn y gweithle neu yn rhoi cynnig ar ddysgu teuluol yn ysgol eu plant. Fe fyddan nhw i gyd yn cael budd o hyn a bydd Cymru yn cael budd hefyd.

Nid dim ond ymyrraeth addysgol yw addysg oedolion, ond mae’n ymyrraeth iechyd, economaidd a chyfiawnder cymdeithasol – ac mae’n gweithio. Mae’n rhaid bod hynny’n rhywbeth i’w ddathlu!

21 Medi 2026

Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru

Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru

Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.

Darllen mwy

17 Medi 2026

Deall buddsoddiad cyflogwr mewn sgiliau

Mae dadansoddiad newydd yn rhybuddio y gallai cynlluniau’r Llywodraeth i gael yr economi i dyfu fethu os nad yw’n gweithredu i wrthdroi gostyngiad mawr yn yr hyfforddiant a gaiff cyflogeion yn y gwaith.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Addysg oedolion yng Nghymru: Arolwg Cyfranogiad Aelodau mewn Dysgu 2025

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion. Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?

Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.

Darllen mwy