Yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion, daeth y Sefydliad Dysgu a Gwaith ag Aelodau o’r Senedd, darparwyr dysgu, dysgwyr a rhanddeiliaid ynghyd i ymchwilio cyflwr presennol addysg oedolion yng Nghymru a thrafod sut y gellir cefnogi mwy o bobl i gael mynediad i gyfleoedd dysgu.
Rhoddodd y digwyddiad sylw i brif ganfyddiadau’r Arolwg Cyfranogiad mewn Dysgu diweddaraf, sy’n rhoi trosolwg o gyfranogiad mewn dysgu ledled Cymru, gan ddynodi pwy sy’n cymryd rhan mewn dysgu ar hyn o bryd ac yn dangos grwpiau a all fod yn colli cyfleoedd.
Clywodd y sawl oedd yn bresennol gan gynrychiolwyr ar draws y sector addysg oedolion gan ddangos yr ystod eang o ddarpariaeth sydd ar gael yng Nghymru. Rhoddodd cyfraniadau sylw i addysg oedolion mewn addysg uwch, addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, y trydydd sector a’r sector hyfforddiant annibynnol.
Rhannodd siaradwr wybodaeth ar sut y caiff dysgu ei ddarparu mewn cymunedau ledled Cymru, gan roi sylw i’r gwahanol lwybrau sydd ar gael i oedolion ddatblygu sgiliau, ennill cymwysterau, meithrin hyder a gwella eu cyfleoedd bywyd drwy ddysgu.
Daeth deg Aelod o’r Senedd i’r digwyddiad, gan roi cyfle i wneuthurwyr polisi glywed o lygad y ffynnon gan ddarparwyr am werth addysg oedolion, yr heriau sy’n wynebu’r sector a’r effaith gadarnhaol a gaiff dysgu ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.