Beth all Cymru ei ddysgu o dystiolaeth ryngwladol ar lythrennedd a rhifedd oedolion?
Yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion, daeth y Sefydliad Dysgu a Gwaith â gwneuthurwyr polisi, darparwyr dysgu, cyflogwyr, undebau llafur, gweithwyr proffesiynol iechyd a rhanddeiliaid ynghyd i ymchwilio’r hyn y gall tystiolaeth ryngwladol ddweud wrthym am lythrennedd a rhifedd oedolion, a’r goblygiadau i Gymru.
Roedd ffocws y digwyddiad ar ganfyddiadau adroddiad OECD Navigating Life with Low Literacy and Numeracy, sy’n rhoi sylw i effaith pellgyrhaeddol sgiliau sylfaenol isel ar gyflogaeth, iechyd, hyder, cyfranogiad dinesig a chynhwysiant cymdeithasol.
Ymchwiliodd y drafodaeth sut mae’r materion hyn yn effeithio ar oedolion ar draws cymunedau a pham mai’r rhai sydd â’r angen mwyaf yw’r lleiaf tebygol yn aml o gael mynediad i gyfleoedd dysgu.
Clywodd y sawl oedd yn bresennol gan Anja Meierkord, OECD, a gyflwynodd ganfyddiadau allweddol yr adroddiad a rhannu gwybodaeth o dystiolaeth ryngwladol ar lythrennedd a rhifedd oedolion, yn cynnwys rhwystrau i gyfranogiad a dulliau effeithiol i ymgysylltu â dysgwyr.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Kathryn Robson, Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru, a roedd yn cynnwys trafodaeth panel yn dod ynghyd â safbwyntiau o addysg oedolion, cyflogaeth, unedau llafur, iechyd, addysg bellach a pholisi.
Ystyriodd y panelwyr ganfyddiadau’r adroddiad ac ystyried yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella llythrennedd a rhifedd oedolion ar draws Cymru.
Roedd y negeseuon allweddol yn cynnwys:
- Yn aml, oedolion sydd â’r angen mwyaf am gymorth llythrennedd a rhifedd yw’r rhai lleiaf tebygol o gymryd rhan mewn dysgu.
- Mae sgiliau hanfodol yn effeithio ar iechyd, llesiant, cyflogaeth, hyder a chynhwysiant cymdeithasol, nid dim ond canlyniadau addysg.
- Mae gan gysylltiadau a sefydliadau dibynadwy rôl hanfodol wrth ennyn diddordeb oedolion mewn dysgu.
- Mae dysgu ar ei fwyaf effeithlon pan mae’n berthnasol, hyblyg ac wedi cysylltu gyda bywyd a nod bob dydd pobl.
- Gall dysgu fel teulu a dysgu yn y gymuned fod yn llwybrau grymus i ddysgu pellach a datblygu sgiliau.
Gan ddod â’r Wythnos Addysg Oedolion i ben, roedd y sesiwn yn gyfle gwerthfawr i rannu tystiolaeth ryngwladol, ymchwilio ymatebion ymarferol i heriau cyffredin yn ymwneud â sgiliau hanfodol, a chryfhau dealltwriaeth o sut y gall Cymru gefnogi mwy o oedolion i wella eu sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Siaradwyr:
- Anja Meierkord, Economegydd y Farchnad Lafur, OECD
- Stephen Evans, Prif Weithredwr, Sefydliad Dysgu a Gwaith
- Lynsey Imms, Swyddog Cenedlaethol: Pennaeth Sgiliau a Gwaith Teg, TUC Cymru
- Lynnette Thomas, Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Aled Jones-Griffith, Prif Swyddog Gweithredol, Grŵp Llandrillo Menai
- Rhian Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi, Medr