Daeth ein Diwrnod Datblygu ESOL ag ymarferwyr, arweinwyr a dysgwyr ynghyd. Roeddem wrth ein bodd i groesawu James Owen, Prif Weithredwr Medr, a agorodd y digwyddiad gydag anerchiad. Dilynwyd hyn gan Michell Hiller‑Forster, Is-Bennaeth Ansawdd a Taith Dysgwyr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, a roddodd gipolwg gwerthfawr o’r bartneriaeth addysg oedolion a darpariaeth ESOL ar draws Caerdydd a’r Fro.

Uchafbwynt neilltuol oedd ein panel dysgwyr, dan arweiniad Martha Holmes, a enillodd Wobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid yn 2025. Roedd clywed dysgwyr yn rhannu eu profiadau a’u teithiau yn rymus ac yn ysbrydoliaeth.

Roeddem hefyd yn falch cael diweddariad gan Alex Stevenson ar ddatblygu fframwaith effeithlonrwydd ESOL ar gyfer Cymru.

Cynhaliwyd pedwar gweithdy diddorol::

  • Cyflwyniad i Fannau Iachau– Jude Darwich, Pwyllgor Achub Rhyngwladol y Deyrnas Unedig
  • Prosiect Cymorth a Chynhwysiant ESOL (ESIP) – Lucie Gegg, Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Cerrig yn afon ESOL: Yr hyn mae disgyblion ESOL yn ei ddysgu i ni am addysgu – Lora Agbaso, Coleg Gwent
  • Annibyniaeth Dysgwyr a Chynhyrchiant Athrawon ar gyfer ESOL – Catherine Evans, Jisc, Katie Walsh, Coleg Penybont, Claire Colley, Coleg Cambria
  • Rôl WSOL mewn ymagwedd amlieithog, gyfranogol at ystafell ddosbarth addysg iaith oedolion mudol – Yr Athro Mike Chick, Prifysgol De Cymru, Dr Gwennan Higham a Walaa Mouma, myfyriwr PhD, Prifysgol Abertawe

Hefyd yn ymuno â ni oedd Sam Shepherd, athro ESOL a hyfforddydd athrawon yng Ngholeg Shipley, a ymchwiliodd werth a rôl gweithio mewn modd ymatebol gydag ieithoedd ymddangosol dysgwyr mewn dosbarthiadau ESOL.

Daeth y digwyddiad i ben gydag adborth, negeseuon allweddol a blaenoriaethau ar gyfer gweithredu, dan arweiniad Michelle Kerswell ac Elinor Franklin, Cyd-gadeiryddion y Rhwydwaith ESOL.

Mae’r cyflwyniadau o’r diwrnod ar gael isod.

25 Medi 2026

Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd

Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.

Darllen mwy

22 Medi 2026

Datgloi potensial gyda dysgu gydol oes

Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n gyfle i gydnabod na fu dysgu gydol oes erioed yn bwysicach i lwyddiant Gogledd Cymru yn y dyfodol. Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn ymadael â’r ysgol, coleg neu brifysgol. Yn economi heddiw sy’n esblygu drwy’r amser,  mae datblygu sgiliau newydd ar hyd ein bywydau yn hanfodol i helpu pobl adeiladu eu hyder, addasu i newidiadau, sicrhau cynnydd yn eu gyrfaoedd a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Darllen mwy

11 Awst 2026

Cyflenwi rhaglenni gwaith ac iechyd lleol: Cynghorion Da

Mae’r cynghorion da hyn yn rhannu gwersi ymarferol ar ddylunio, cyflenwi a gwerthuso rhaglenni gwaith ac iechyd lleol. Cawsant eu cynllunio ar gyfer y rhai sy’n llunio a chyflenwi polisi lleol a rhanbarthol, timau data a gwerthuso ac uwch wneuthurwyr penderfyniadau.

Darllen mwy

24 Gorffennaf 2026

Llywodraeth Cymru: Archwiliad Sgiliau Cymru

Cafodd Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal Archwiliad Sgiliau Cymru i ddynodi’r sgiliau sydd eu hangen yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi a thyfu economi Cymru.  Beth yw Archwiliad Sgiliau Cymru?  Cynhaliwyd yr archwiliad ffurfiol diwethaf o sgiliau yng Nghymru yn 2012 ac mae’r tirlun […]

Darllen mwy

13 Ionawr 2026

Rhaglen Tystiolaeth ar y Farchnad Lafur

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi comisiynu’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, i ddarparu adolygiadau tystiolaeth ac adnoddau ymarferol ar faterion allweddol y farchnad lafur i helpu llywio gwneuthurwyr polisi lleol. 

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

6 Tachwedd 2025

Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

21 Hydref 2025

Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru

Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.

Darllen mwy