Beth mae adolygiad Milburn yn ei olygu i Gymru?
As Wales develops a new skills strategy and seeks to address challenges around unemployment, economic inactivity and young people not in education, employment or training, this timely event will explore the challenges and opportunities shaping Wales’ future workforce.
Mae Adolygiad Milburn a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn foment bwysig yn rhaglen ddiwygio Llywodraeth y DU i gefnogi pobl ifanc i waith a gwella canlyniadau cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig. Ond beth yw’r goblygiadau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru a sut ddylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio i fynd i’r afael â mater pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant?
Y weminar hon fydd un o’r cyfleoedd cyntaf i ymchwilio’r hyn y mae’r adolygiad yn ei olygu i Gymru a thrafod ei oblygiadau gydag arweinwyr blaenllaw o bob rhan o’r sector.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys sylwadau gan arweinwyr y Sefydliad Dysgu a Gwaith ynghyd â chyfraniadau gan arbenigwyr allanol a rhanddeiliaid y sector. Gyda’i gilydd, byddant yn ymchwilio:
- Canfyddiadau ac argymhellion mwyaf arwyddocaol Adolygiad Milburn
- Sut y gallai a sut y dylai agweddau a ddatganolwyd a’r rhai heb eu datganoli o gefnogi pobl ifanc gydweithio
- Yr hyn y gallai’r cynigion ei olygu ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sy’n edrych am waith, addysg neu hyfforddiant
- Y goblygiadau ar gyfer cyflogwyr a’r rôl y gallant ei chwarae wrth wella cyfleoedd
- Meysydd lle gall fod angen mwy o weithredu neu drafodaeth
Mae’r siaradwyr yn cynnwys:
Stephen Evans, Prif Weithredwr, Sefydliad Dysgu a Gwaith
Dewi Knight, Cyfarwyddwr, PolicyWise
Sian Joseph, Cyfarwyddwr Cyflawni – Cymru, The Kings Trust
Dave Hagendyk, Prif Weithredwr, Colegau Cymru