Bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ysgolion bro a rhanddeiliaid ar draws dysgu oedolion yn y gymuned ac ysgolion i ddatblygu’r fframwaith yma.

Mae’r Model Dysgu fel Teulu yn fodel hyblyg a gynlluniwyd i helpu darparwyr addysg oedolion ac ysgolion i gynnwys dysgu fel teulu yn eu rhaglenni. Ei nod yw hybu dysgu fel teulu fel llwybr i ddysgu gydol oes, datblygu sgiliau, cyflogadwyedd a chyfleoedd swydd ar gyfer oedolion a phlant.

Mae’r adnodd yn dangos fod dysgu fel teulu yn newid bywydau. Pan gaiff cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu, mae’n meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu. Fel dull ymgysylltu, mae dysgu fel teulu yn datblygu sgiliau a llwybrau i ddysgu pellach a chyflogaeth.

Yn y digwyddiad cafodd cynrychiolwyr eu cyflwyno i’r Fframwaith a chael gwybodaeth werthfawr ar bartneriaethau dysgu fel teulu a’u heffaith.

Siaradwyr:

  • Nadine Young, Pennaeth Polisi Cyflogadwyedd, Llywodraeth Cymru
  • Kay Smith, Pennaeth Ymgyrchoedd a Pholisi, Sefydliad Dysgu a Gwaith
  • Dr Suzanne Sarjeant, Cynghorydd Ysgolion Cymunedol, Llywodraeth Cymru
  • Hayley Jacobs, Rheolwr Ysgol sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned, Rhondda Cynon Taf
  • Jo Tincello, Rheolwr Ymgysylltu a Chontract Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Partneriaeth Addysg Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Emma McLoughlin, Dirprwy Bennaeth Ehangu Cyfranogiad, Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Laura Phillips, Cydlynydd Dysgu Gydol Oes, Sbardun – Dysgu Sir Benfro
  • Gina Powell, Swyddog Ymgysylltu Teuluoedd, Ysgol Gynradd Pencaerau, Caerdydd
  • Rhian Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi, Medr
  • Christina Roy, Grŵp Dysgu Rhieni, Ysgol Uwchradd Cathays/Addysg Oedolion Cymru
  • Steve Bell, AEF Estyn
  • Hayley Brady, Pennaeth, Ysgol Gynradd Pencaerau, Caerdydd

25 Medi 2026

Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd

Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru

Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru

Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.

Darllen mwy

17 Medi 2026

Deall buddsoddiad cyflogwr mewn sgiliau

Mae dadansoddiad newydd yn rhybuddio y gallai cynlluniau’r Llywodraeth i gael yr economi i dyfu fethu os nad yw’n gweithredu i wrthdroi gostyngiad mawr yn yr hyfforddiant a gaiff cyflogeion yn y gwaith.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Addysg oedolion yng Nghymru: Arolwg Cyfranogiad Aelodau mewn Dysgu 2025

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion. Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?

Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.

Darllen mwy