Yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion, daeth y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Medr â darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned, dysgwyr a rhanddeiliaid ynghyd i lansio’r Teclyn Ymgysylltu â Dysgwyr ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned a rhannu gwybodaeth o weithgaredd ymgysylltu â dysgwyr ledled Cymru.
Rhoddodd y digwyddiad sylw i ganfyddiadau o waith Dysgu a Gwaith gyda dysgwyr a darparwyr, yn cynnwys adborth a gasglwyd drwy brosiect y Fforwm Cenedlaethol Addysg Oedolion. Soniodd trafodaethau am gymhellion oedolion i ddysgu, y rhwystrau a wynebent, effaith dysgu ar hyder, llesiant a chynnydd, a’r gefnogaeth sydd ei hangen i alluogi mwy o bobl i gael mynediad i gyfleoedd dysgu a chael budd ohonynt.
Roedd lansio’r Teclyn Ymgysylltu â Dysgwyr yn ffocws allweddol i’r digwyddiad. Mae hwn yn adnodd hunanwerthuso a chynllunio gweithredu newydd a gynlluniwyd i gefnogi ymgysylltu â dysgwyr mewn dysgu oedolion yn y gymuned.
Wedi’i ddatblygu gan Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda darparwyr ledled Cymru, cafodd y Teclyn ei greu i helpu darparwyr i ystyried ymarfer cyfredol, cryfhau llais ac ymgyfraniad dysgwyr a dynodi camau gweithredu ymarferol i sefydlu ymgysylltu ystyrlon â dysgwyr o fewn prosesau penderfynu.
Cadeiriwyd y sesiwn gan James Owen, Prif Weithredwr Medr, gyda chyfraniadau gan ddysgwyr a gymerodd ran yn Fforwm Genedlaethol Addysg Oedolion yn rhannu eu profiadau a negeseuon allweddol ar gyfer y sector. Clywodd y gynulleidfa hefyd gan Dysgu a Gwaith a darparwyr partner am ddatblygu’r Teclyn Ymgysylltu â Dysgwyr a sut y gall gefnogi ymgysylltu ystyrlon mewn dysgu oedolion yn y gymuned. Roedd y digwyddiad yn gyfle i rannu dysgu, dathlu ymarfer cydweithio ar draws y sector ac ymchwilio sut gall y Teclyn gefnogi gweithredu Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr tra’n cryfhau llais dysgwyr ar draws dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru.
Cryfhau Ymgysylltu â Dysgwyr mewn Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Lawrlwythwch yr Offeryn
