Cafodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023 i gynnal adolygiad o’r system sgiliau yng Nghymru. Fe’i cynlluniwyd i ymchwilio gwahanol weledigaethau ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) yng Nghymru.

Rhoddodd yr adolygiad drosolwg o’r dystiolaeth ar sefydlu system sgiliau gydlynol sy’n gwahaniaethu rhwng rhaglenni Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol Cychwynnol (IVET), a gynhelir fel arfer o fewn y system addysg ffurfiol ac wrth bontio i waith, ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol Parhaus (CVET) a gynhelir fel arfer ar ôl addysg ddechreuol ac ar ôl dechrau ar fywyd gwaith, ar gyfer oedolion i ennill neu wella eu gwybodaeth a’u sgiliau a hybu eu datblygiad proffesiynol. Cafodd y trosolwg o’r dystiolaeth wedyn ei brofi gan arbenigwyr a chynrychiolwyr sector.

Mae effeithiau’r pandemig a Brexit, lefelau uchel o anweithgaredd economaidd, newidiadau i bolisi mewnfudo y Deyrnas Unedig a newid ehangach mewn cymdeithas, yn cynnwys datblygu technolegau newydd, digideiddio a thrawsnewid i sero net wedi creu heriau a chyfleoedd newydd ar gyfer yr economi, y farchnad lafur a’r system sgiliau.

Oherwydd y newid yn y tirlun, mae’n hanfodol archwilio’r system sgiliau i ddynodi sut y gall rhaglenni hyfforddiant sgiliau baratoi unigolion yn effeithiol ar gyfer byd gwaith a chefnogi dysgu gydol oes.

Edrychodd yr ymchwil ar dair thema allweddol – agweddau strategol a systemig VET; ystyriaethau cyflenwi a chwricwlwm; a manteision ac effaith VET.

Roedd prif ganfyddiadau’r ymchwil yn cynnwys:

Agweddau strategol a systemig VET

  • Mae anghysonderau rhwng cydweithio rhwng cyflogwyr a darparwyr dysgu ar draws Cymru.
  • Ystyrir bod anghenion y cohort CVET (25 oed a throsodd) yn wahanol i raddau helaeth i ddysgwyr IVET a phrentisiaid.
  • Mae gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil gyfle i drin rhai anghydraddoldebau hanesyddol sy’n effeithio ar IVET a hefyd CVET.

Agweddau cwricwlwm a chyflenwi VET

  • Mae hyblygrwydd cymwysterau yn hanfodol i alluogi system VET ystwyth.
  • Mae gan IVET a hefyd CVET rolau allweddol mewn ehangu cyfranogiad, mynediad a chynhwysiant.
  • Mae darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gwybodus a diduedd ar yrfaoedd yn bwysig ar gyfer dysgwyr IVET a CVET.

Safbwyntiau ar fanteision ac effaith VET

  • Effaith gadarnhaol VET ar yr unigolyn yw’r sail ar gyfer effeithiau cymdeithasol, cyflogwyr ac economaidd ehangach.
  • Mae gwahanol anghenion carfannau oed yn arwain at flaenoriaethau gwahanol ar gyfer pob un o fewn carfannau IVET a CVET.
  • Caiff cyflogwyr eu dynodi fel rhanddeiliaid fel buddiolwyr allweddol IVET a CVET.
  • Mae sgiliau y gellir eu trosglwyddo neu eu trawslinio yn elfen allweddol i fesur fel cyfryngydd dylanwadol.
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

25 Medi 2026

Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd

Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru

Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru

Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.

Darllen mwy

17 Medi 2026

Deall buddsoddiad cyflogwr mewn sgiliau

Mae dadansoddiad newydd yn rhybuddio y gallai cynlluniau’r Llywodraeth i gael yr economi i dyfu fethu os nad yw’n gweithredu i wrthdroi gostyngiad mawr yn yr hyfforddiant a gaiff cyflogeion yn y gwaith.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Addysg oedolion yng Nghymru: Arolwg Cyfranogiad Aelodau mewn Dysgu 2025

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion. Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?

Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.

Darllen mwy