Mae dysgu yn allweddol i fywyd, gwaith a chymdeithas. Gall helpu pobl i ddod o hyd i waith, brofi cynnydd yn eu gyrfa neu ei newid, cefnogi iechyd a llesiant, hyrwyddo integreiddio cymdeithasol a llawer mwy o fanteision eraill. Dim ond cynyddu mewn pwysigrwydd y bydd dysgu gydol oes wrth i boblogaeth y Deyrnas Gyfunol heneiddio, i bobl gael oes hwy yn y gwaith ac i’n heconomi a’n cymdeithas newid.

Ers 1996, mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi bod yn cynnal yr Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu bron yn flynyddol. Mae’r arolwg yn cynnig trosolwg unigryw o lefel y cyfranogiad mewn dysgu gan oedolion, gyda manylion manwl am bwy sy’n cymryd rhan a phwy nad ydynt.

Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r arolwg yn dod o hyd i anghyfartaledd amlwg a pharhaol, gyda rhai grwpiau yn fwy tebygol o ddysgu yn oedolion nag eraill. Dynododd arolwg 2023 hefyd y gall y gwahaniaethau rhwng rhanbarthau daearyddol fod yn cynyddu. Gan fod polisïau a chyllido polisïau dysgu yn cael eu datganoli, mae’n bwysig deall patrymau cyfranogi yn well ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.

Gall gwahaniaethau daearyddol yng nghyfranogiad oedolion mewn dysgu gael eu hesbonio trwy wahaniaethau demograffig, mewn geiriau eraill, pwy sy’n byw yn y genedl neu ranbarth dan sylw. Ond gall ffactorau eraill, fel ymyraethau polisi hefyd arwain at y gwahaniaethau hyn. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi golwg ar gyfranogiad oedolion mewn dysgu yng Nghymru.

Yng Nghymru, dywedodd tua dau o bob pump o oedolion (41 y cant) eu bod wedi dysgu yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, sydd yn sylweddol is na’r cyfartaledd yn Lloegr. Cymru sydd â’r gyfradd isaf o ran cyfranogiad mewn dysgu o holl genhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Gyfunol. Ond, dim ond yn ystadegol arwyddocaol is na chwech o’r rhanbarthau eraill oedd y gyfran o ddysgwyr cyfredol neu ddiweddar: Llundain Fwyaf (64 y cant), Gogledd Orllewin Lloegr (52 y cant), Dwyrain Canolbarth Lloegr (52 y cant), Gorllewin Canolbarth Lloegr (51 y cant) De Ddwyrain Lloegr (48 y cant) a De Orllewin Lloegr (48 y cant).

25 Medi 2026

Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd

Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru

Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru

Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.

Darllen mwy

17 Medi 2026

Deall buddsoddiad cyflogwr mewn sgiliau

Mae dadansoddiad newydd yn rhybuddio y gallai cynlluniau’r Llywodraeth i gael yr economi i dyfu fethu os nad yw’n gweithredu i wrthdroi gostyngiad mawr yn yr hyfforddiant a gaiff cyflogeion yn y gwaith.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Addysg oedolion yng Nghymru: Arolwg Cyfranogiad Aelodau mewn Dysgu 2025

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion. Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?

Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.

Darllen mwy