Traddodwyd darlith Raymond Williams eleni gan gyn-fyfyriwr a graddedig er anrhydedd y Brifysgol Agored Dr Sabrina Cohen-Hatton.

I nodi’r Wythnos Addysg Oeddolion yng Nghymru, rwy’n bwrw golwg ar y ngwaith gyda Gweithdy DOVE, profiad grymus a drawsnewidiodd f

Ar ôl cael ei gwneud yn ddigartref yn 15 oed, brwydrodd Sabrina yn erbyn rhagfarn a rhagdybiaethau, a daeth yn ddiffoddwr tân dair blynedd yn ddiweddarach. Yna aeth ymlaen i astudio am radd gyda’r Brifysgol Agored, cyn ennill ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fel Prif Swyddog Tân yng Ngwasanaeth ac Achub Gorllewin Sussex, mae hi bellach yn un o ddiffoddwyr tân hynaf y DU, yn ogystal â bod yn seicolegydd ac yn awdur sawl llyfr.

Yn siarad yn Eglwys Norwyaidd Caerdydd, trafododd Sabrina sut y mae tlodi’n effeithio ar iechyd a lles, sut y gall rhagdybiaethau bennu’r dyfodol i lawer, a sut y gall addysg ddod yn arf yn erbyn gwrth-tlodi. Gan dynnu ar ei phrofiad ei hun o draw-effaith addygs, rhoddodd Sabrina glod i waith y Brifysgol Agored, Prifysgol Caerdydd, a’r Big Issue, y cylchgrawn a werthodd ar un adeg yng Nghasnewydd, ac y mae hi bellach yn llysgennad iddo.

Mae’r ddarlith hon yn ddigwyddiad blynyddol i gofio bywyd Raymond Williams, un o feddylwyr cymdeithasol mwyaf Cymru ac Ewrop. Fe’i trefnir gan Sefydliad Dysgu a Gwaith, a’i chefnogir gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Ar ôl ei sgwrs, ymunodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS â Sabrina ar gyfer sesiwn holi ac ateb.

Dywedodd y Gweinidog:

“Roedd yn fraint bod yn rhan o Ddarlith Goffa Raymond Williams eleni. Mae taith eithriadol Dr Sabrina Cohen-Hatton o ddigartrefedd yng Nghasnewydd i Brif Swyddog Tân yn dangos yn gryf sut mae addysg yn llwybr gwirioneddol allan o dlodi. Fel Gweinidog dros Addysg Bellach ac Uwch, rwyf wedi ymrwymo i adeiladu system addysg sy’n cyrraedd pawb, yn enwedig y rhai sy’n wynebu’r heriau mwyaf. Credai Raymond Williams fod addysg yn creu gobaith – mae stori Dr Cohen-Hatton yn profi pam mae hyn yn bwysig”.

Dywedodd Dr Sabrina Cohen-Hatton:

“Credai Raymond Williams y gall addysg fod yn arf i helpu pobl allan o dlodi, sydd yn rhywbeth y gallaf ei dystio. Un o’r heriau mwyaf yw sut mae eraill yn ein gweld ni, a sut rydym ni’n ein gweld ni ein hunain. Byddwn yn aml yn dweud wrthym ni ein hunain na allwn ni ei wneud, a dyna pam ei bod hi mor hanfodol ein bod ni’n parhau i gael gwared ar rwystrau anweledig sy’n atal pobl rhag cyrraedd eu potensial.”

Archwiliwch Ddarlithoedd Coffa Raymond Williams yn y gorffennol

Darllen mwy

25 Medi 2026

Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd

Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru

Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru

Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.

Darllen mwy

17 Medi 2026

Deall buddsoddiad cyflogwr mewn sgiliau

Mae dadansoddiad newydd yn rhybuddio y gallai cynlluniau’r Llywodraeth i gael yr economi i dyfu fethu os nad yw’n gweithredu i wrthdroi gostyngiad mawr yn yr hyfforddiant a gaiff cyflogeion yn y gwaith.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Addysg oedolion yng Nghymru: Arolwg Cyfranogiad Aelodau mewn Dysgu 2025

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion. Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?

Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.

Darllen mwy