Mae dysgu fel teulu yn newid bywydau. Pan fo cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion wedi eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu, dengys tystiolaeth fod hynny yn meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu.

Mae’n neilltuol o effeithlon fel dull i gyrraedd ac ymgysylltu ag oedolion a gafodd y budd lleiaf o’u haddysg ddechreuol, sydd â llai o gymwysterau a heb fawr o brofiad o waith cyflog. Fel dull ymgysylltu, mae dysgu fel teulu yn datblygu sgiliau a llwybrau i fwy o ddysgu a chyflogaeth.

Mae gan ddysgu fel teulu draddodiad cyfoethog yng Nghymru. Mae diddordeb o’r newydd ymysg
gwneuthurwyr polisi, ysgolion a’r sector addysg oedolion mewn datblygu ac ehangu darpariaeth i
ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau a wynebwn heddiw.

Datblygu fframwaith ar gyfer Dysgu Teuluol

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod potensial dysgu fel teulu i helpu wrth fynd i’r afael ag anfantais addysgol ac anghydraddoldeb parhaus mewn cyflogaeth a phrofiadau a deilliannau bywyd yn ehangach. Mae’n ymroddedig i gefnogi mabwysiadu’r dull addysgol neilltuol a thrawsnewidiol hwn yn fwy eang.

Mae’r fframwaith yn rhoi model hyblyg ar gyfer darparwyr addysg oedolion ac ysgolion nad ydynt yn ymwneud ar hyn o bryd â chyflenwi dysgu fel teulu a hoffai ei sefydlu yn eu hymarfer. Mae’n anelu i gryfhau rôl dysgu fel teulu fel llwybr i ddysgu gydol oes, datblygu sgiliau, cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth ar gyfer oedolion a phlant.

Fframwaith Dysgu fel Teulu

Mae’r Fframwaith Dysgu fel Teulu yn fodel hyblyg a gynlluniwyd i helpu
darparwyr addysg oedolion ac ysgolion i gynnwys dysgu fel teulu yn eu rhaglenni.
Ei nod yw hybu dysgu fel teulu fel llwybr ar gyfer dysgu gydol oes, datblygu
sgiliau, cyflogadwyedd a chyfleoedd swydd ar gyfer oedolion a phlant.

Lawrlwythwch y fframwaith

25 Medi 2026

Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd

Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru

Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.

Darllen mwy

21 Medi 2026

Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru

Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.

Darllen mwy

17 Medi 2026

Deall buddsoddiad cyflogwr mewn sgiliau

Mae dadansoddiad newydd yn rhybuddio y gallai cynlluniau’r Llywodraeth i gael yr economi i dyfu fethu os nad yw’n gweithredu i wrthdroi gostyngiad mawr yn yr hyfforddiant a gaiff cyflogeion yn y gwaith.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Addysg oedolion yng Nghymru: Arolwg Cyfranogiad Aelodau mewn Dysgu 2025

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cyhoeddi ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn flynyddol am bron 30 mlynedd. Fel yr arolwg hynaf o’i fath, mae’n sefyll allan fel yr adroddiad diffiniol ar bwy sy’n dysgu ar draws y Deyrnas Unedig, sut maent yn dysgu a’r hyn sy’n eu cymell. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysgol a gynigir yn gyhoeddus ar gyfer oedolion. Yn 2025 fe wnaethom ychwanegu ein sampl arolwg yng Nghymru yn benodol i 800 aelod. Mae’r set data estynedig yma yn ein galluogi i gymryd golwg agosach ar y llwyddiannau unigryw a’r heriau neilltuol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnig pwynt cymharu amhrisiadwy gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

22 Mehefin 2026

Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?

Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.

Darllen mwy