Ein gweledigaeth yw cymdeithas deg a llewyrchus lle mae dysgu a gwaith yn galluogi pawb i wireddu eu potensial. Mae ein hadroddiad effaith diweddaraf yn rhoi sylw i’n gwaith rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.
25 Medi 2026
Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd
Mae dysgu yn rhywbeth sy’n parhau drwy gydol ein bywyd. P’un ai yw hynny yn ddatblygu sgiliau gwaith, gwella hyder digidol, dysgu gan gydweithwyr neu ymchwilio diddordeb newydd, gall pob profiad dysgu gyfrannu at ein datblygiad personol a phroffesiynol.
22 Medi 2026
Datgloi potensial gyda dysgu gydol oes
Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n gyfle i gydnabod na fu dysgu gydol oes erioed yn bwysicach i lwyddiant Gogledd Cymru yn y dyfodol. Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn ymadael â’r ysgol, coleg neu brifysgol. Yn economi heddiw sy’n esblygu drwy’r amser, mae datblygu sgiliau newydd ar hyd ein bywydau yn hanfodol i helpu pobl adeiladu eu hyder, addasu i newidiadau, sicrhau cynnydd yn eu gyrfaoedd a manteisio ar gyfleoedd newydd.
21 Medi 2026
Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon. Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae’r dysgwyr hynny yn ei ddweud wrthym a defnyddio’r wybodaeth honno i lunio polisi, cyllid a darpariaeth.
21 Medi 2026
Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru
Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Medr, Estyn, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gryfhau addysg oedolion drwy bartneriaeth, rhannu arbenigedd ac ymrwymiad i wella parhaus.
21 Medi 2026
Amser i ddathlu addysg oedolion fel grym cadarnhaol dros newid trwy Gymru
Mae Wythnos Addysg Oedolion – 21-27 Medi – yn cynnig cyfle amserol i ddathlu unigolion trwy Gymru sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu ac mae’n annog mwy ohonom i wneud yr un fath.
22 Mehefin 2026
Mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu ond a ydym yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen?
Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yn dweud stori gadarnhaol am fwy yn cymryd rhan yn dysgu ond mae hefyd yn dangos y gallai’r rhai a allai fod yn cael mwyaf o fudd fod yn colli allan. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru (47%) wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, cyfradd uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (42%) ond daw anghydraddoldeb sylweddol i’r amlwg pan edrychwn ar oedran, demograffeg a statws cyflogaeth. Mae’r diffiniad o ddysgu yn yr arolwg yn fwriadol eang ac yn ymestyn tu hwnt i gyfleoedd a gyllidir gan y llywodraeth neu gyflogwyr i gynnwys dysgu anffurfiol a hunangyfeiriedig.
23 Mawrth 2026
Gwobr am gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes i AS sy’n ymddeol
Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.
18 Mawrth 2026
Cyfnod heriol? Amser am gwricwlwm heriol.
Mae addysg ôl-16 yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid.